Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae gan yr holl bartneriaid rol bwysig i'w chwarae wrth helpu'ch plentyn neu'ch person ifanc gyrraedd ei botensial llawn. Dyma wybodaeth am rolau a chyfrifoldebau gwahanol pob partner.

Mae gan yr holl bartneriaid rol bwysig i'w chwarae wrth adnabod perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol (gan gynnwys yr ysgol, yr awdurdod lleol, asiantaethau allanol a rhieni).

Felly pa rolau a chyfrifoldebau ddylai fod gennym ni'n hunain (fel rhieni), gan athrawon, ysgolion a'r awdurdod lleol?

Disgwyliadau statudol

  • Mae gan holl staff yr ysgol rol bwysig i'w chwarae wrth ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol a rhieni.
  • Dylai ysgolion dderbyn a gwethfawrogi cyfraniad rhieni ac annog eu cyfranogiad. Dylid gwneud pob ymdrech i nodi sut mae'n well gan rieni weithio gydag ysgolion, a chydnabod y bydd angen help a chefnogaeth emosiynol ac ymarferol ar rai teuluoedd os ydynt yn mynd i chwarae rol allweddol yn addysg eu plant.
  • Dylai ysgolion geisio datblygu partneriaethau grwpiau cefnogi rhieni lleol neu sefydliadau gwirfoddol i helpu'r broses hon.

Polisi'r ysgol ar ddiwallu 'Anghenion Dysgu Ychwanegol'

Rhaid bod gan ysgolion bolisiau sy'n dangos:

  • Sut maen nhw'n adnabod disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a sicrhau y diwellir eu hanghenion.
  • Sut maen nhw'n sicrhau y bydd disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ymuno yn holl weithgareddau'r ysgol.
  • Sut maen nhw'n sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn gwneud y cynnydd gorau posib.
  • Sut maen nhw'n sicrhau yr hysbysir rheini o Anghenion Dysgu Ychwanegol eu plentyn (a'r ddarpariaeth ar ei gyfer); a bod cyfathrebu effeithiol rhwng rhieni a'r ysgol.
  • Sut maen nhw'n sicrhau bod dysgwyr yn mynegi eu barn ac yn cael eu cynnwys yn llawn mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu haddysg.
  • Sut maen nhw'n hybu partneriaethau effeithiol ac yn cynnwys asiantaethau allanol fel y bo'n briodol.
  • Rhaid i ysgolion ystyried Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (i'w ddisodli gan y Cod Ymarfer ADY).

 

Corff llywodraethu'r ysgol

Mae corff llywodraethu'r ysgol yn helpu i lunio polisi ysgol. Darllenwch am sut mae'r corff llywodraethu'n cydweithio a'r pennaeth i sicrhau bod plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi'u cefnogi'n llawn yn yr ysgol.

Pennaeth a staff yr ysgol

Y pennaeth yw'r uwchathro yn yr ysgol ac mae'n gyfrifol am addysg yr holl ddisgyblion. Dyma ragor o wybodaeth am gyfrifoldebau'r pennaeth o ran cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae gan bob ysgol Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY) sy'n chwarae rol allweddol yn y polisi a'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Dyma wybodaeth am sut mae'r Cydlynydd ADY yn cynghori ac yn cefnogi aelodau staff eraill.

Rôl yr awdurdod lleol

Mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu arweiniad i ysgolion a lleoliadau addysg eraill am eu dyletswyddau statudol i hybu safonau addysg uchel i'r holl blant.

Rôl rhieni a gofalwyr

Mae gan rieni a gofalwyr rol bwysig i'w chwarae yn addysg eu plant.

Meithrin perthnasoedd â gweithwyr proffesiynol

Mae partneriaethau cryf rhwng rieni a gweithwyr proffesiynol yn hanfodol i hybu datblygiad plentyn.

Rôl cefnogwr rhieni

Gall rhieni deimlo wedi'u llethu wrth ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) eu plentyn. Yn y sefyllfa hon, efallai gall cefnogwr rhieni eich helpu.
Close Dewis iaith