Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ryers Down

Ardal o dir comin 68ha yw Ryers Down (sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).

Nid oedd yn bosib cael mynediad i Ryers Down tan yn ddiweddar oherwydd uchder a thrwch y rhedyn yn bennaf. Defnyddiwyd dulliau mecanyddol i reoli'r rhedyn, gan ganiatáu i amrywiaeth eang o fflora a ffawna'r rhostir ffynnu unwaith eto. Mae rheoli'r rhedyn hefyd wedi cynyddu'r tir pori ar gyfer da byw y cominwyr ac wedi arwain at ddarganfod llawer o nodweddion archeolegol gan gynnwys safleoedd posib tai hirion canol oesol.

Uchafbwyntiau

Ceir golygfeydd ysblennydd ar draws Penrhyn Gŵyr a Moryd Llwchwr o ben y bryn yn y piler triongli. Edrychwch a chlustfeiniwch am gân yr ehedydd a'r llinos uwch ben.

Dynodiadau

  • Tir Comin
  • Tir Mynediad CGHT

Mae Ryers Down yn rhan o'r canlynol: 

  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr (AoHNE)
  • Tirwedd Gorllewin Gŵyr sydd wedi'i chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (CCGC/CADW: Henebion Hanesyddol Cymru/ICOMOS UK 1998, 53-56)

Cyfleusterau

  • Ardal barcio bach

Gwybodaeth am fynediad

Ger Burry Green, Gŵyr
Cyfeirnod Grid SS456921
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Gellir cael mynediad i'r safle am ddim er y croesewir cyfraniadau i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn iddynt barhau i gyflawni gwaith rheoli ar y safle hwn.

Mynediad i'r safle ar hyd llwybrau troed amrywiol. Mae'r ffordd rhwng Llanmadog a Burry Green yn croesi pen gorllewinol Ryers Down.

Llwybrau troed

Mae llwybrau troed o gwmpas y safle. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol daflen o'r enw 'Hardings Down a Ryers Down' sydd ar gael o ganolfannau croeso lleol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ceir

Ardal fach i barcio ceir oddi ar y ffordd rhwng Llanmadog a Burry Green ger arwydd omega'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bysus

Y safle bws agosaf yw Burry Green.

Cofiwch gadw cwn o dan reolaeth rhag tarfu ar dda byw sy'n pori ac adar bridio.

Close Dewis iaith