Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol

Yr egwyddorion cenedlaethol ar gyfer cynnwys y choedd.

Beth yw'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol?

Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol
 Mae hyn yn golyguByddwn ni
GwybodaethMae gennych chi'r hawl i wybodaeth sy'n hawdd ei deall ac sy'n gadael i chi wneud penderfyniad gwybodus.

Yn darparu gwybodaeth o safon dda, yn glir ac yn hawdd mynd ati.

Yn rhoi gwybod i chi pwy sy'n mynd i wrando a gadael i chi wybod pa wahaniaeth gallai'ch cyfranogiad chi ei wneud.

Chi biau'r dewisMae gennych chi'r hawl i ddewis cymryd rhan a gweithio ar bethau sy'n bwysig i chi.Yn rhoi digon o gefnogaeth ac amser i chi ddewis a ydych chi eisiau cymryd rhan.
Dim gwahaniaethuMae plant a phobl ifanc i gyd yn wahanol ac mae ganddyn nhw'r hawl i gael eu trin yn deg.

Yn herio gwahaniaethu.

Yn cynnig amrediad o gyfleoedd a chefnogaeth i fodloni anghenion plant a phobl ifanc.

ParchMae gennych chi'r hawl i leisio barn. Mae'ch safbwyntiau chi'n bwysig a chant eu parchu.

Yn gwrando ar eich barn, eich profiadau a'ch syniadau ac yn eich cymryd chi o ddifri.

Yn gweithio gyda chi ar bethau rydych chi'n dweud eu bod nhw'n bwysig.

Yn gwerthfawrogi beth sydd gennych chi i'w gynnig.

Bod ar eich ennill

Mae gennych chi'r hawl i ddysgu a bod y gorau y gallwch chi fod.

Bydd gennych chi gyfleodd i weithio gyda phobl eraill a gwneud gwahaniaeth.

Rydyn ni eisiau i chi gymryd rhan mewn profiadau positif.

Yn gweithio gyda chi mewn ffordd ddiogel, hwyl a phleserus.

Yn manteisio i'r eithaf ar beth rydych chi'n ei wybod ac yn gwneud pethau sy'n meithrin eich hyder a'ch sgiliau chi.

AdborthMae gennych chi'r hawl i wybod pa wahaniaethau rydych chi wedi eu gwneud a sut mae rhywun wedi gwrando ar eich syniadau chi.

Bob amser yn sicrhau eich bod chi'n cael adborth o fewn amser sydd wedi'i gytuno.

Yn dweud wrthych chi ut mae'ch syniadau wedi caeal eu defnyddio a pharn.

Yn dweud wrthych chi beth sy'n digwydd nesaf.

Gweithio'n well drosoch chiDylai'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc roi hawliau plant yng nghanol popeth maen nhw'n ei wneud.

Yn gweithio gyda chi ac yn dysgu sut i wneud pethau'n well.

Yn gwneud yn siwr bod eich barn yn gwneud gwahaniaeth i'r ffordd rydyn ni'n gwneud cynlluniau a phenderfyniadau.

Sut mae'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol yn cysylltu a'r egwydorion cenedlaethol ar gyfer cynnwys y cyhoedd?

Dyma'r egwyddorion cenedlaethol ar gyfer cynnwys y cyhoedd. Egwyddorion nid safonau. Maent yn gyfres drosgynnol o egwyddorion ar gyfer sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus ar draws pob sector yng Nghymru. Diben yn rhain yw bod uwchlaw unrhyw safonau penodol y gallech eisoes fod yn eu defyddio e.e. Safonau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, safonau Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol, a bwriedir iddynt eu hategu. Maent yn ceisio cynnig ymagwedd gyson a safon dda ar gyfer cynnwys y choedd ar draws Cymru.

Close Dewis iaith