Hyfforddiant Coronafeirws ar gyfer darparwyr sector gofal annibynnol a gwirfoddol
Cynnig Cyngor Abertawe i gefnogi sefydlu ar gyfer gweithwyr newydd yn y sector gofal annibynnol a gwirfoddol yn ystod argyfwng COVID-19.
Mae Uned Datblygu a Hyfforddi Staff Cyngor Abertawe wedi gwneud newidiadau dros dro i'r ffordd y maent yn cynnig hyfforddiant yn y sector. Mae'r holl hyfforddiant wyneb yn wyneb wedi'i ohirio am y tro, ond byddwn yn parhau i gynnig hyfforddiant a chyngor i chi dros yr wythnosau sydd i ddod.
Rydym yn ymwybodol eich bod yn gweithio'n galed iawn i barhau i gyflwyno'r gwasanaethau hanfodol. I gefnogi'ch prosesau recriwtio a sefydlu, rydym wedi darparu tri math o ddeunydd i gefnogi'ch hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol.
Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Datblygu Fframwaith Sefydlu
- Pecyn Hyfforddiant Rhithwir E-ddysgu Abertawe (Cronfa Ddysgu)
- Dolenni ac adnoddau defnyddiol a ddarperir gan Ofal Cymdeithasol Cymru
Datblygu Fframwaith Sefydlu
Mae'r canllawiau statudol ar gyfer Rheoliadau Gwasanaeth 36 yn nodi bod angen i ddarparwyr gwasanaeth sicrhau bod ganddynt raglen sefydlu sy'n galluogi'r holl staff newydd i fod yn hyderus yn eu rolau a'u harfer, ac sy'n galluogi iddynt wneud cyfraniad cadarnhaol at les unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael rhaglen sefydlu addas.
Ymateb i COVID a Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
Mae Abertawe wedi datblygu trefniadau dros dro ar gyfer ei staff y mae croeso i chi gael mynediad atynt.
Rydym yn cyflwyno'n trefniadau sefydlu drwy hyfforddiant e-ddysgu a ddatblygwyd i ddiwallu anghenion sefydlu yn ystod cyfnod COVID-19.
Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant hwn bydd angen i'r recriwtiaid newydd gael eu mentora gan weithiwr profiadol i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn iach i weithio.
Datblygwyd yr hyfforddiant e-ddysgu i ddiwallu anghenion sylfaenol y fframwaith hwn a bydd yn eich helpu chi a'r unigolyn cyfrifol i ddangos bod gweithwyr yn cwblhau cyfnod sefydlu cadarn, strwythuredig i sicrhau bod gofynion rheoliadol a monitro contractau'n cael eu bodloni, yn enwedig yn y sefyllfa COVID bresennol.
Dyluniwyd a datblygwyd y fframwaith sefydlu hwn fel y gellir ei ddefnyddio gan yr holl weithwyr gofal a chymorth mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.
Staff Name and Number 03 PART A (Word, 38KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Previous skills or experience induction PART B (002) (Word, 19KB)Yn agor mewn ffenest newydd
ZIP FILE - Competencies
Mynediad E-ddysgu at y Gronfa Ddysgu
Gallwn gynnig mynediad i chi at ein pecyn hyfforddiant E-ddysgu a elwir yn Gronfa Ddysgu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn drwy edrych ar y ddogfen hon:
Swansea Learning Pool Registration Form (Word, 29KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Ar gyfer darparwyr allanol, anfonwch y ffurflen hon at Annie.O'Reilly@abertawe.gov.uk
Ar gyfer gwirfoddolwyr CGGA, anfonwch y ffurflen hon at Helena.Gammond@abertawe.gov.uk
Dyma restr o rai o'r prif fodiwlau dysgu sydd ar gael yn y Gronfa Ddysgu: Mae angen 45-60 munud i gwblhau pob modiwl.
- Côd Ymarfer Proffesiynol
- Diogelu Oedolion a Phlant
- Iechyd a Diogelwch Sylfaenol
- Hylendid Bwyd
- Diogelwch tân
- Dementia
- Rheoli straen
- Symud a thrafod (llwyth difywyd)
- Rheoli Heintiau/Cyfarpar Amddiffyn Personol
Mae'r adnoddau hyn yn cael eu gwirio a'u diweddaru'n rheolaidd mewn ymateb i COVID-19.
Adnoddau ychwanegol
Mae adnoddau ychwanegol ar gyfer y Gronfa Ddysgu'n cael eu datblygu ar hyn o bryd a byddant ar gael yn y dyfodol agos.
- Profedigaeth
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
- Lles a'i bwysigrwydd
- Gofal sy'n canolbwyntio ar y person (oedolion)
- Gofal sy'n canolbwyntio ar y plentyn
- Maeth a hydradiad
- Diabetes
- Gofal ceg
Dolenni ac adnoddau defnyddiol eraill
Mae gwe-dudalen newydd Gofal Cymdeithasol Cymru bellach yn fyw a bydd yn gweithredu fel pwynt mynediad cyffredin ar gyfer unrhyw adnoddau, blogiau, ymchwil ac adnoddau hyfforddiant sy'n ymwneud â COVID-19.
Dyma'r ddolen https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/gwybodaeth-ac-adnoddau-ich-tywys-trwy-covid-19
Diogelu Oedolion - trefniadau Llywodraeth Cymru
Yn ystod pandemig Coronafeirws, rhoddir trefniadau newydd ar waith ar gyfer gofal ac i sicrhau bod staff o asiantaethau eraill yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.
Bydd rhai ymarferwyr yn gweithio fel rhan o wasanaethau neu mewn adeiladau sy'n anghyfarwydd iddynt a chyda phobl nad ydynt yn eu hadnabod. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rhyddhau awdurdodau lleol neu bartneriaid perthnasol o'u dyletswyddau statudol unigol o ran diogelu.
Mae'n hanfodol bod gan bawb sy'n gweithio gydag oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod fynediad at wybodaeth glir ynghylch sut i adrodd am bryder o ran diogelu. Rydym wedi paratoi gwybodaeth i ymarferwyr ynghylch sut i ymateb i bryder o ran diogelu.
- Diogelu Oedolion - Adnoddau (Llywodraeth Cymru)
- Diogelu Oedolion - Taflen Ymarferydd (Llywodraeth Cymru)
Mae diogelu'n rhan bwysig o waith y Gwasanaethau Cymdeithasol a bydd y timau Brys a Dyletswydd yn parhau i dderbyn galwadau am oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.
Gallwch hefyd ddarllen rhagor o wybodaeth ar-lein am:
- Rhannu gwybodaeth er mwyn diogelu pobl
- Adrodd am oedolyn mewn perygl
Mae gwybodaeth ychwanegol hefyd ar gael gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol: bwrdddiogelu.cymru/?noredirect=cy_GB
Grŵp Gofal Clwyfau