Toglo gwelededd dewislen symudol

Meddwl am sefydlu busnes gofal plant?

Cyn dechrau eich busnes, dylech ystyried y math o ofal plant sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal rydych wedi'i dewis. Dylech hefyd ymchwilio i'r galw am y math o ofal plant rydych am ei ddarparu.

Gall asesu galw rhieni eich helpu i benderfynu a fydd eich busnes yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.

Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD) ddarparu copi o'r Asesiad Digonolrywdd Gofal Plant i chi. Ymgynghorwyd ar yr archwiliad gyda rhieni/gofalwyr a darparwyr gofal plant yn Abertawe i nodi bylchau mewn darpariaeth gofal plant.  Gallai'r ADGP fod yn ddefnyddiol pan fyddwch yn ymchwilio i'r farchnad oherwydd gallai eich galluogi i nodi galw penodol.

Rol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Mae'r Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd) yn rheoli ac yn archwilio gwasanaethau gofal dydd i blant dan 12 oed, gan gynnwys:

  • Gwarchodwyr Plant
  • Gofal Dydd Llawn
  • Gofal Dydd Sesiynol
  • Gofal y Tu Allan i'r Ysgol
  • Meithrinfeydd
  • Chwarae mynediad agored

Rhaid i bob lleoliad gofal plant sy'n gofalu am blant dan 12 oed ac sy'n gweithredu am fwy nag 1 awr a 59 munud gofrestru gydag AGC.

Prif nodau cofrestru yw hyrwyddo safon a diogelu plant, gan sicrhau y gofelir amdanynt mewn lleoliad diogel a phriodol.

Rhaid i leoliad gofal plant fodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol AGC cyn y gellir ei gofrestru.

Os bydd eich busnes yn gofalu am blant dan 12 oed yn hwy na'r amser a nodwyd, a'ch bod heb eich cofrestru gydag AGC, byddwch yn torri'r gyfraeith.

Bydd AGC yn parhau i archwilio'r lleoliad(au) i sicrhau bod y person cofrestredig yn parhau i fodloni'r Safonau a'r Rheoliadau Gofynnol Cenedlaethol wrth weithredu.

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd). Gallwch hefyd gael copi caled drwy gysylltu a'ch swyddfa AGC ranbarthol.

Swyddogion datblygu - sefydliadau partner

Mae Dinas a Sir Abertawe yn cefnogi nifer o Swyddogion Datblygu a gyflogir gan sefydliadau partner.  Gall y Swyddogion Datblygu hyn ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i leoliadau gofal plant arfaethedig a rhai sydd eisoes yn bodoli; mae hyn yn cynnwys dechrau neu ddatblygu busnes gofal plant.

Sylwer mae arweiniad yn unig yw'r wybodaeth a dderbyniwch gan Swyddog Datblygu.  Mae'r AGC yn cadw'r hawl i orfodi newidiadau lle maent yn teimlo nad yw'r lleoliad gofal plant yn bodloni'r safonau.

Mathau o wasanaeth gofal plant

Cyn dechrau eich busnes dylech ystyried y math o ofal plant yr hoffech ei ddarparu.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)

Asiantaeth weithredol y Swyddfa Gartref a sefydlwyd i helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel yw'r GDG.

Cymwysterau ac opsiynau gyrfa

Mae Gofal Cwmdeithasol Cymru a Sgiliau'n Weithgar yn darparu gwybodaeth am y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

Nawdd a grantiau ar gyfer darparwyr gofal plant cymwysiedig / arfaethedig

Cyngor ar nawdd a grantiau sydd ar gael i ddarparwyr gofal plant cymwysiedig neu arfaethedig.
Close Dewis iaith