Chwilio'r wefan
English
Market stall

Siopau canol y ddinas

Ewch i ganol dinas Abertawe i siopa am y brandiau gorau neu eitemau unigryw na fyddwch yn dod o hyd iddynt yn unrhyw le arall.

Mae Stryd Rhydychen a Chanolfan Siopa'r Cwadrant yn cynnig amrywiaeth o siopau mwy ac enwau'r stryd fawr, ond ceir digonedd o siopau annibynnol os byddwch yn chwilio am rywbeth unigryw.

Peidiwch ag anghofio am siopa gyda'r hwyr yng nghanol y ddinas bob nos Iau wrth nesáu at y Pasg a'r Nadolig.

Defnyddiwch eich cerdyn ffyddlondeb Calon Fawr AbertaweYn agor mewn ffenest newydd i arbed llawer o arian wrth i chi siopa. Cofrestrwch eich manylion ac yna, wrth ymweld â lleoliad sy'n rhan o'r cynllun ffyddlondeb, dangoswch eich cerdyn wrth y til.

Yn agos iawn i'r ganolfan siopa yw Parc Tawe lle byddwch yn dod o hyd i siopau bwyd a nwyddau cartref mawr.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM