Diweddariadau Coronafeirws i staff - 20 Mai 2020 - storio ar y cwmwl
Mae storio a chyrchu data ar y cwmwl yn flaenoriaeth i ni o hyd oherwydd y bydd yn gwella cadernid digidol a gweithio ystwyth, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn.
Cyn y pandemig Coronafeirws, gofynnom i chi drefnu'ch ffeiliau personol a'u trosglwyddo i'r system storio ar gwmwl OneDrive, ac i roi'r gorau i arbed dogfennau ar eich gyriant H. Roedd y Gwasanaethau Digidol hefyd wedi gweithio gyda rhai timau i ddechrau trefnu a symud ffolderi a rennir yn eu timau i SharePoint.
Yn y pen draw, wrth i ni symud ymlaen i'r cam adfer ac ymgartrefu gyda'r drefn 'arferol' newydd, bydd yr hyn a drosglwyddir i'r cwmwl yn cynyddu'n gyflym, felly mae angen i ni sicrhau ein bod yn barod am y newid hwn. Mae'r broses yn cymryd amser, gwaith cynllunio ac adnoddau. Dywedodd rhai o'r timau sydd eisoes wedi cyflawni'r broses mai'r rhan fwyaf llafurus oedd glanhau data.
Gofynnwn i dimau enwebu 'grŵp glanhau data' i fynd trwy'r ffeiliau a'r ffolderi a rennir a'u paratoi i'w trosglwyddo i SharePoint, a chaiff hyn ei amserlenni gan y Gwasanaethau Digidol gyda phob maes gwasanaeth yn y dyfodol.
Ffolderi personol - Symud y gyriant H i OneDrive
Os ydych eisoes wedi trefnu a symud eich ffeiliau i OneDrive ac yn defnyddio hwnnw i storio'ch holl ffeiliau personol, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall.
Os nad ydych wedi trefnu'ch ffeiliau na'u symud i OneDrive, sicrhewch eich bod yn trefnu/gwirio'ch data cyn gynted â phosib.PEIDIWCH â symud unrhyw ffolderi- oherwydd nifer y staff sy'n gweithio gartref, nid ydym am roi rhagor o bwysau ar y rhwydwaith.
Ffolderi timau - symud ffolderi a rennir i SharePoint
Trefnwch fod rhywun yn eich tîm yn gwirio ac yn trefnu'r ffolderi hyn. Mae ffolderi a rennir yn tueddi i gronni llawer o ddata dros y blynyddoedd, ac nid oes angen popeth sydd ynddynt wrth symud ymlaen. Mae llawer o ddata sydd wedi'i ddyblygu/sy'n ddiangen/sy'n hen/sy'n cael ei gadw y tu hwnt i gyfnodau cadw, etc mewn ffolderi a rennir. Dyma gyfle i chi gael gwared ar y ffeiliau a'r ffolderi hyn a'u dileu, ac adolygu strwythurau presennol eich ffeiliau i gyflwyno trefn newydd sydd o bosib yn fwy synhwyrol.
Ar ôl i chi gyflawni'r dasg hon, byddwn yn trefnu amser i drosglwyddo'ch ffolderi i'ch SharePoint sy'n addas i'ch tîm (o fewn y 12-18 mis nesaf). PEIDIWCH â cheisio'u trosglwyddo eich hunain.
Rhagor o wybodaeth
· Symud ffeiliau i system storio ar gwmwl
· Trosglwyddo i system storio ar gwmwl - awgrymiadau
· Trefnu'ch data yn eich ffolderi personol (symud i OneDrive)
· Trefnu data yn eich ffolderi a rennir (symud i SharePoint)
· Cwestiynau cyffredin ynghylch y system rheoli cynnwys newydd
Cysylltwch â Katie Kinevane neu Andrew Calow trwy ddefnyddio Teams i gael cymorth neu i drafod y broses, gan gynnwys os hoffech wybod faint o ddata sydd yn eich ffolderi a rennir, eu dyddiad addasu diweddaraf, etc.