Chwilio'r wefan
English

Owen Money's Jukebox Heroes III

Bydd Owen Money a'i fand gwych 'The Travelling Wrinklies' yn talu sawl teyrnged wefreiddiol i rai o oreuon y byd cerddoriaeth.

Owen Money
3 Ebrill 2020
7.30PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ

Tocynnau: £20.00
Buy Tickets Button Welsh

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Owen Money's Jukebox Heroes yn 2016, ac yna Owen Money's Jukebox Heroes II yn 2018, mae Owen Money yn dychwelyd gyda sioe fyw arall llawn talent, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth o'i sioeau radio poblogaidd sy'n cael eu darlledu ar y penwythnosau ar BBC Radio Cymru, ac wrth gwrs ei gomedi unigryw a'i ffraethineb Cymreig!
Bydd Owen a'i fand yn cyfeilio llais swynol Alex John wrth iddo atgynhyrchu synau blaengar The Beach Boys...
Byddwch yn cael eich syfrdanu wrth i Katie Mitchell dalu teyrnged i rai o oreuon canu Enaid y byd megis Aretha Franklin, Etta James a Nina Simone...
A bydd Jeff Phillips yn perfformio fel y canwr hynod boblogaidd Neil Diamond...
A beth am un arall? ... 
Bydd Sara Jones yn dod i'r llwyfan gyda pherfformiad gwych fel Miss Tina Turner.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM