Chwilio'r wefan
English

Showstopper! The Improvised Musical

Enillwyr Gwobr Olivier 2016 -Sioe er Adloniant ac i Deuluoedd Orau. 14+

Showstopper
8 Tach 2019
7.30PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ

Tocynnau: £25.00
Buy Tickets Button Welsh

Comedi gerddorol ddigymell ar ei gorau - ar ei ffordd i Theatr y Grand Abertawe'n syth o'r West End!

Mae Showstopper, a fu'n hynod boblogaidd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin am 11 mlynedd, sy'n gyfres ar BBC Radio 4, yn sioe arobryn yn y West End ac yn gynhyrchiad a enillodd Wobr Olivier, wedi hudo cynulleidfaoedd ar draws y byd gyda'i chymysgedd dyfeisgar o gomedi, theatr gerdd a'i natur ddigymell.

Bydd comedi gerddorol newydd sbon yn cael ei chreu o'r dechrau ym mhob perfformiad o'r sioe arobryn hon wrth i awgrymiadau gan yn gynulleidfa gael eu trawsnewid yn gynyrchiadau sy'n llawn caneuon a dawnsio â chanlyniadau digrif dros ben. Bydd y perfformwyr gwefreiddiol hyn yn sicr o greu argraff fawr arnoch wrth iddynt berfformio sioe sy'n llawn drama, coreograffi cyffrous a chaneuon cofiadwy - â'r cyfan wedi'i ddyfeisio yn y fan a'r lle!

Felly os hoffech glywed ychydig o Rodgers a Hammerstein ar olwyn fawr neu Sondheim ar fynydd Everest - awgrymwch hynny a bydd cast Showstopper yn ei ganu!


★★★★★ 'So polished, it defies belief.' Daily Telegraph
★★★★★ 'Had me weeping with laughter... you absolutely have to go.' Mail on Sunday
★★★★★ 'Achingly funny... Worth seeing again and again.' Time Out Critics' Choice

Wedi'i bweru gan GOSS iCM