Chwilio'r wefan
English

Soweto Gospel Choir

Freedom.

Soweto Gospel Choir
19 Hyd 2020
7.30PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ

Tocynnau: £21.50 - £35.00
Buy Tickets Button Welsh

Ar ôl ennill Gwobr Grammy yn 2019 ar gyfer yr Albwm Cerddoriaeth y Byd Gorau, "Freedom", sef detholiad o ganeuon sy'n dathlu ac yn coffáu brwydr ddemocrataidd De Affrica dros ryddid, mae Côr Gospel Soweto bellach yn dod â'i gyngerdd "Freedom" i'r DU.

Mae Côr Gospel Soweto, sy'n hanu o Soweto (maestref y de-orllewin), tref y tu allan i Johannesburg a oedd yn gartref i Nelson Madela a mudiad democrataidd De Affrica, yn parhau i ysbrydoli cynulleidfaoedd o bedwar ban y byd gyda'i gymysgedd pwerus o gerddoriaeth gospel Affricanaidd, caneuon rhyddid a chlasuron rhyngwladol.

Mae'r perfformwyr hyn, sy'n cynnwys rhai o gantorion gorau De Affrica, wedi rhannu'r llwyfan gyda rhai o enwau mwyaf y byd cerddoriaeth, gan gynnwys U2, Aretha Franklin, Stevie Wonder, Robert Plant, Celine Dion, Red Hot Chili Peppers a Josh Groban.

Yn ystod y repertoire llawen hwn, bydd y côr yn perfformio rhaglen gyffrous o ganeuon rhyddid sy'n dathlu bywyd Nelson Mandela, tad Cenedl yr Enfys, yn ogystal â chlasuron gospel rhyngwladol gan gynnwys fersiwn o "Hallelujah" gan Leonard Cohen a fydd yn gyrru iasau ar hyd eich asgwrn cefn a fersiwn anhygoel o "Amazing Grace", y mae dros 15 miliwn o bobl wedi'i gwylio ar YouTube.

* * * * "It's impossible to spend an hour with them and not leave with a big smile on your face" In Daily

Wedi'i bweru gan GOSS iCM