Chwilio'r wefan
English

Spirit Of The Dance

Mae'r sioe ryngwladol lwyddiannus yn dathlu 21 o flynyddoedd fel un o'r sioeau dawns mwyaf llwyddiannus erioed a bydd ar daith gyda'i sioe wefreiddiol newydd.

Spirit Of The Dance
21 Ion 2020
7.30PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ

Tocynnau: £29.00
Buy Tickets Button Welsh

Mae'r sioe hynod boblogaidd, sydd wedi cael ei gweld gan dros 20 miliwn o bobl ar draws y byd, yn dod o Iwerddon yn wreiddiol ac mae'n llawn egni. Bydd y strafagansa egnïol hon yn un o'r sioeau dawns mwyaf cyffrous erioed, a bydd yn cynnwys cymysgedd gwefreiddiol o ddawns Wyddelig a mathau gwahanol o ddawns o bedwar ban byd.

Ceir dawnsfeydd Albanaidd, flamenco, lladin, salsa, dawnsio stryd, hip hop, techno, cancan a dawnsio tap Americanaidd i'r un rhythmau deinameg â sŵn byddarol a hudol y ddawns Wyddelig. Bydd y sioe wefreiddiol hon yn eich tywys ar daith o gwmpas y byd drwy hud dawns.  

Mae dawnswyr Spirit of the Dance yn swnio fel trên ar ras a bydd eu sgiliau syfrdanol a'u manylder yn gyrru ias i lawr eich cefn. Ni fydd un esgid ddawns Wyddelig yn anghyson wrth i draed taranllyd y dawnswyr berfformio fel un, gyda pherfformiad mor gyffrous y bydd y gynulleidfa'n ymbil am fwy. Bydd y sioe arobryn hon yn llawn goleuadau llachar, gwisgoedd sgleiniog a choreograffi gwefreiddiol.  Gyda churo dwylo byddarol, cymeradwyaethau sefyll a phob tocyn wedi'i werthu ym mhob perfformiad, "Spirit Of The Dance" yw un o'r sioeau dawns gorau erioed.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM