Chwilio'r wefan
English

The Drifters

Mae The Drifters yn ôl ar daith arall o gwmpas y DU gyda sioe newydd sbon a fydd yn cynnwys eu holl ganeuon enwog o'r chwe degawd diwethaf.

The Drifters
26 Tach 2019
7.30PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ

Tocynnau: £29.00
Buy Tickets Button Welsh

Mae'r grŵp enwog wedi cael ei dderbyn i'r "Rock & Roll Hall of Fame", ei restri ymhlith yr Artistiaid Gorau a Fu Erioed yng nghylchgrawn Rolling Stone, ac wedi cynhyrchu rhestr wych o ganeuon llwyddiannus, gan gynnwys; Saturday Night at the Movies, Come on Over to My Place, Stand By Me, Under the Boardwalk a llawer, llawer mwy!

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y grŵp ar ei daith yn 2018 i ddathlu 65 mlynedd ers ei sefydlu, mae The Drifters ar daith unwaith eto gyda chasgliad o ddyddiadau ychwanegol ar gyfer 2019, a chyda rhestr berfformio a drefnwyd gan Tina Treadwell ei hun - sef Llywydd Grŵp Adloniant Treadwell a pherchennog enw The Drifters.

Mae Tina, yr oedd ei thad wedi dechrau'r grŵp, o'r farn mai'r rhestr berfformio hon yw'r un orau hyd yma, ac mae'n edrych ymlaen at y daith sydd ar ddod. "Yn dilyn ein 65ed flwyddyn, rwy'n gyffrous iawn fod gennym sioe newydd i'r cefnogwyr hynny rydym yn eu gwahodd i ymuno â ni i ddathlu stori anhygoel a bythol The Drifters."

Ffôn: 01792 475715
Wedi'i bweru gan GOSS iCM