Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Swyddfa Dai'r Ardal Ganolog

Mae'n cynnwys holl ardaloedd tai Townhill a Chanol y Dref ac mae ganddi swyddfeydd yn Townhill a chanol y ddinas.

Ardaloedd eraill a gynhwysir yn y swyddfa hon: Townhill, Mayhill, Waun Wen, Plasmarl, Glandŵr, y Marina, Dyfati, Heol Griffith John ac ardal New Street.

Swyddfa Townhill
Swyddfa Canol y Dref
Cyfleusterau'r swyddfa dai
Swyddogion cymdogaeth yn Swyddfa Dai'r Ardal Ganolog

 

Swyddfa Townhill

Rhodfa Powys, Townhill, Abertawe  SA1 6PH

E-bost: swyddfadai.ardalaganolog@abertawe.gov.uk

Rhif ffôn: 01792 513900

Amserau agor swyddfa Townhill
Dydd Llun9.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mawrth9.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mercher9.30am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Iau9.30am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Gwener9.00am - 3.30pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.00pm)

Cyrraedd y swyddfa

 

Swyddfa Canol y Dref

Heol Croft, Dyfati, Abertawe SA1 1QB

E-bost: swyddfadai.ardalaganolog@abertawe.gov.uk

Rhif ffôn: 01792 513900

Amserau agor swyddfa canol y ddinas
Dydd Llun9.00am - 1.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mawrth1.00pm - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mercher9.00am - 1.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Iau1.00pm - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Gwener9.00am - 1.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.00pm)

Cyrraedd y swyddfa

 

Cyfleusterau'r swyddfa dai

Mae gan bob un o'n swyddfeydd tai:

  • rampiau a rheiliau i ddrysau'r fynedfa ynghyd â drysau sy'n agor yn awtomatig
  • dolenni clyw i helpu pobl â nam ar y clyw yn y derbynfeydd ac mewn cyfarfodydd
  • cymhorthion cynorthwyol sy'n cynnwys hambyrddau arffed, pinnau gafael mawr, chwyddwydrau, lampiau golau dydd, canllawiau ysgrifennu
  • ystafelloedd cyfweliad preifat y gellir eu defnyddio i drafod gwybodaeth gyfrinachol neu os ydych eisiau preifatrwydd i gael help gan aelod o staff i ddarllen drwy ffurflen gymhleth gyda chi a'i chwblhau
  • arwyddion cyffyrddol

Mae staff sy'n siarad Cymraeg ar gael i siarad â chi a gallwch gael gwyodaeth ysgrifenedig am dai yn Gymraeg os gofynnwch am hynny. Gallwn ddarparu cyfieithwyr proffesiynol os oes angen iaith arall arnoch. Gofynnwch i aelod o staff yn ein swyddfa dai am help a chymorth.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd galw heibio un o'n swyddfeydd, gallwn drefnu ymweliadau cartref. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.

Close Dewis iaith