Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddi gwag cyfredol

Swyddi sydd ar gael gyda Dinas a Sir Abertawe neu sefydliadau partneriaeth.

Carer helping someone up

Dylid cyflwyno ffurflenni cais erbyn 11.59pm ar y dyddiad cau.

Mae ffurflenni cais ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, e.e. print bras/braille/tâp sain. Ffoniwch 01792 636098 os oes angen unrhyw un o'r cyfleusterau hyn arnoch.

Blaenoriaethir y gweithwyr hynny y mae eu swyddi mewn perygl.

Os ydych eisoes yn gweithio i'r cyngor, rydych hefyd yn gymwys i wneud cais am y swyddi gwag mewnol sydd ar gael.

Awgrymiadau ar gwblhau eich ffurflen gais (PDF) [30KB]

Hoffwch ni ar Facebook (Yn agor ffenestr newydd) neu dilynwch ni ar Twitter (Yn agor ffenestr newydd) i gael y newyddion diweddaraf am swyddi.

Seicolegydd Addysg Locwm (llawn-amser neu ran-amser)

Yn sgil galw cynyddol, mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Abertawe (EPS) yn chwilio am seicolegydd addysg locwm (LEP).

Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol

O £12.00 yr awr. Cyflogir Cynorthwyydd Personol Gofal Cymdeithasol i gefnogi unigolyn i fyw mor annibynnol â phosib. Mae amrywiaeth o swyddi ar gael yn ardal Abertawe i gefnogi unigolion o bob oed (gan gynnwys plant ac oedolion), cefndir a gallu.

Swyddog Marchnata Digidol (dyddiad cau: 15/02/24)

£29,777 - £33,024 y flwyddyn. Cytundeb dros dro yw hwn hyd at 31 Mawrth 2025 ar gyfer Swyddog Marchnata Digidol.

Uwch-ymarferydd Gwaith Cymdeithasol (dyddiad cau: 29/04/24)

£43,421 - £45,441 y flwyddyn. Yn Abertawe, rydym yn credu mai ein gweithlu yw ein hased mwyaf, a byddwn yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir ac amgylchedd gweithio cadarnhaol i ddarparu gofal cymdeithasol rhagorol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Cynorthwyydd Llwyfan Wrth Gefn (dyddiad cau: 30/06/24)

£23,114 y flwyddyn pro rata. Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Llwyfan Wrth Gefn (Contract Dim Oriau) yn adeiladau mawreddog Theatr y Grand a Neuadd Brangwyn.

Cydlynydd Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (dyddiad cau: 06/05/24)

£43,421 - £47,420. Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r cyfle i weithio fel Cydlynydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yng Ngwasanaeth Priffyrdd a Chludiant yr Adran Lle. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno polisi cynllunio trafnidiaeth strategol gan gynnwys pob agwedd ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Cytundeb cyfnod penodol am 12 mis o'r dyddiad cychwyn.

Cynorthwyydd Gofal Cymunedol (dyddiad cau: 29/04/24)

£25,979- £28,770 y flwyddyn pro rata. Mae ein Cynorthwywyr Gofal Cymunedol yn darparu gofal a chefnogaeth i helpu pobl i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, byw'n dda, adennill annibyniaeth a/neu aros yn annibynnol yn eu cartref eu hunain ac yn eu cymuned.

Cynorthwyydd Gofal Cymunedol (dyddiad cau: 29/04/24)

£25,979- £28,770 y flwyddyn pro rata. Mae ein Cynorthwywyr Gofal Cymunedol yn darparu gofal a chefnogaeth i helpu pobl i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, byw'n dda, adennill annibyniaeth a/neu aros yn annibynnol yn eu cartref eu hunain ac yn eu cymuned.

Arbenigwr Adsefydlu Golwg (dyddiad cau: 29/04/24)

£33,945 - £37,336 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am Arbenigwr Adsefydlu Golwg cymwysedig arloesol a blaengar sydd â sgiliau rhyngbersonol a datrys problemau rhagorol.

Swyddog Gofal Preswyl i Blant (dyddiad cau: 30/04/24)

£29,777 - £33,024 y flwyddyn. Mae ein cartrefi preswyl yn darparu cymorth, arweiniad a gofal i blant a phobl ifanc rhwng 12 a 18 oed. Gall ein plant a'n pobl ifanc wynebu anawsterau ymddygiadol ac emosiynol a allai effeithio ar eu lles a'u diogelwch.

Rheolwr Cofrestredig (dyddiad cau: 30/04/24)

£43,421 - £47,420 y flwyddyn. Mae hwn yn ddatblygiad newydd cyffrous yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn symud ymlaen â datblygiad ein cynnig gwasanaethau preswyl mewnol.  Rydym yn awyddus i recriwtio i swydd Rheolwr Cofrestredig ar gyfer Cartrefi Gofal Plant. Bydd y swydd yn llawn amser ac yn barhaol.

Archifydd Sirol (dyddiad cau: 02/05/24)

£43,421 - £47,420 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am archifydd cymwys a phrofiadol i arwain a chyfarwyddo ein Gwasanaeth Archifau Achrededig ar ran Cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer pob agwedd ar y Gwasanaeth Archifau, gan gynnwys staff, casgliadau, cadwraeth, mynediad a chadwraeth ddigidol.

Rheolwr AD a Datblygu Strategol (DS) (dyddiad cau: 02/05/24)

£53,653 - £58,089 y flwyddyn. Mae gennym gyfle gwych i'r person iawn siapio a dylanwadu ar ddiwylliant Cyngor Abertawe.

Prosiect Drive yn y Carchar - Cynghorwr Annibynnol ar Drais Domestig (dyddiad cau: 02/05/24)

£33,945 - £37,336 y flwyddyn (pro-rata). Rydym yn hysbysebu am Gynghorwr Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA) (Prosiect Drive yn y Carchar) dros dro am bedwar diwrnod yr wythnos o fewn yr Hwb Cam-drin Domestig tan 31/03/25.

Swyddog Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (dyddiad cau: 03/05/24)

£25,979 - £28,770 y flwyddyn. Swydd rheng flaen yw hon sy'n darparu cefnogaeth lefel isel i Bobl Hŷn sy'n byw yn un o Gynlluniau Byw'n Annibynnol y Gwasanaeth Tai i'w galluogi i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Ymgynghorydd Gwella Ysgolion (dyddiad cau: 07/05/24)

£65,097 - £68,301 y flwyddyn (Soulbury 19-22 + 3 pwynt SPA). Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd Ymgynghorydd Gwella Ysgolion i gyfrannu i wella addysg ar draws ysgolion cynradd Abertawe.

Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr-agored (dyddiad cau: 02/07/24)

£25,979 y flwyddyn (pro-rata). Dyma gyfle unigryw, fydd yn ddelfrydol ar gyfer gweithiwr ieuenctid neu hamdden profiadol a hoffai symud i weithio gyda gweithgareddau anturus; byddai'r rôl hon hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr gweithgareddau awyr-agored profiadol sy'n awyddus i ddatblygu sgiliau ym maes gweithgareddau awyr-agored addysgol a therapiwtig.

Swyddog Cyllid (dyddiad cau: 01/05/24)

£25,979 - £28,770 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Cyllid/Comisiynu i weithio fel Swyddog Cyllid llawn-amser, dros dro o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae cyllid wedi'i sicrhau yn y lle cyntaf tan 31 Mawrth 2025.

Prynwr (dyddiad cau: (09/05/24)

£25,979 - £28,770 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'n tîm prynu yn yr Adran Gwasanaethau Adeiladu brysur iawn sydd wedi'i lleoli yn y depo yn Heol y Gors Cwmbwrla Abertawe.

Swyddog Gwasanaeth Dydd (dyddiad cau: 08/05/24)

£25,979 to £28,770 pro rata y flwyddyn. Mae Gwasanaeth Datblygu Gwaith Fforestfach yn bwriadu penodi person brwdfrydig, gofalgar a llawn cymhelliant i weithio mewn Gwasanaeth sydd wedi hen ennill ei blwyf fel Swyddog Gwasanaeth Dydd.

Gweithiwr Cyswllt Teulu (dyddiad cau: 08/05/24)

£25,979 - £28,770 y flwyddyn. A oes gennych chi brofiad o weithio gyda phlant? Ydych chi'n berson gofalgar? Ydych chi'n gefnogol ac yn anfeirniadol?

Swyddog Cymdogaeth (dyddiad cau: 09/05/24)

£29,777 - £33,024 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Gwasanaeth Tai i weithio fel Swyddog Cymdogaeth mewn Swyddfa Dai Ardal. Mae hon yn rôl sy'n golygu delio wyneb yn wyneb â chwsmeriaid, gan gefnogi, helpu a chynghori tenantiaid a phreswylwyr ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â thenantiaeth tai a rheoli ystadau. Cyfle i wneud gwahaniaeth o fewn cymunedau.

Gweithiwr Canolfan Ieuenctid x4 (dyddiad cau: 09/05/24)

£23,500 - £23,893 y flwyddyn pro rata. Ydych chi'n llawn cymhelliant, yn frwdfrydig ac yn wydn, rhywun sy'n chwilio am yrfa heriol gyda phwrpas? Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc 11 - 18 oed yn Abertawe?
Close Dewis iaith