Tim am y Teulu yn Abertawe
Mae'r Tim am y Teulu'n ffordd o gydweithio a theuluoedd a chanddynt anghenion ychwanegol sy'n rhy eang i un gwasanaeth ddygymod a hwy er lles y plant neu'r person ifanc.
Pan fydd gan deulu anghenion lluosog sy'n rhy eang/gymhleth i un gwasanaeth fynd i'r afael a hwy, mae'r Tim am y Teulu'n cynnig ffordd o sicrhau bod teuluoedd:
- yn cael eu hadnabod yn gynnar ac yn effeithiol;
- yn cael asesiad o'u cryfderau a'u hanghenion; a
- defnyddir adnoddau lleol i'r graddau gorau posib i sicrhau y gellir manteisio ar gryfderau'r teulu a'r gymuned ac atal problemau rhag gwaethygu.
Beth yw'r Tim am y Teulu?
- Mae'r Tim am y Teulu yn ffordd gyfannol o weithio partneriaeth sy'n caniatau i'r teulu cyfan dderbyn cefnogaeth gydlynol.
- Mae'n gweithio gyda rhieni a gofalwyr 0-11 oed.
Pan fydd anawsterau teulu'n lluosog ac yn rhy eang i un gwasanaeth fynd i'r afael a hwy, mae'r Tim am y Teulu'n cynnig ffordd o sicrhau bod y teulu yn derbyn y canlynol:
- Y cynhelir asesiad cryfderau a'u hanghenion
- Ystyrir anghenion y teulu cyfan
- Hwyluso cyfathrebu rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol drwy ganiatad ymlaen llaw
- Atal ac ymyrryd
- Hyrwyddo gwaith amlasiantaeth
- Proses rhannu gwybodaeth PISP/WASPI
Tîm am y Teulu mewn Ysgolion (TATY)
Mae TATY yn fenter radical, arloesol a chynaliadwy i gefnogi plant ysgolion cynradd Abertawe.