Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Tai cyngor wedi'u dodrefnu

Gallwn ddarparu'r dodrefn hanfodol sydd eu hangen arnoch i helpu i wneud eich tŷ'n gartref.

Unwaith y byddwch wedi derbyn cynnig eiddo (a chais am ddodrefn sy'n gynwysedig) yna bydd un o'n swyddogion tenantiaethau wedi'u dodrefnu'n cysylltu â chi i asesu'ch anghenion a chadarnhau pris wythnosol. Yna byddwn yn danfon eich dodrefn dewisol cyn i chi symud i mewn, ac yn trefnu dyddiad ac amser cyfleus i beiriannydd cymwys gysylltu'ch ffwrn am ddim.

Mae'r dodrefn y byddwch yn eu derbyn yn dibynnu ar faint eich teulu, ond gallwch ddewis o welyau a dodrefn ystafell wely, soffas, dodrefn bwyta ac offer cegin. Yn syml rydych yn dewis yr hyn sydd ei angen arnoch.

Cost dodrefn

Mae gan yr holl gynnyrch werth pwyntiau a bydd cyfanswm eich pwyntiau'n pennu'ch ffi wythnosol.

Os ydych chi'n hawlio Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai, efallai y byddwch yn gymwys am ran o'ch taliad wythnosol neu'r taliad cyfan. Os ydych ar gyllideb dynn, neu mae gennych rai eitemau'n barod, gallwch ddewis ychydig eitemau'n unig a bydd y pris wythnosol yn llawer is.

Mae'r ffïoedd hyn yn berthnasol i denantiaethau a ddechreuodd ar neu ar ôl Mawrth 2021.

Cost pwyntiau wythnosol
PwyntiauCost wythnosol (ym mis Ebrill 2023 - yn amodol ar gynnydd blynyddol)
Hyd at 50 pwynt (o leiaf 2 eitem)£7.94
51 - 100 pwynt£10.17
101 - 150 pwynt£18.72
151 - 250 pwynt£24.18
251 - 300 pwynt£25.36
301 - 400 pwynt£26.54
Cost dodrefn mewn pwyntiau
CynnyrchPwyntiau
Gwely dwbl14 pwynt
Gwely sengl13 pwynt
Wardrob ddwbl8 pwynt
Cist ddroriau6 pwynt
Soffa â 2 sedd17 pwynt
Soffa â 3 sedd20 pwynt
Soffa-wely24 pwynt
Bwrdd a chadeiriau19 pwynt
Oergell-rewgell20 pwynt
Ffwrn drydan25 pwynt
Peiriant golchi 6kg16 pwynt
Peiriant golchi 8kg23 pwynt
Cot/matres11 pwynt
Cadair uchel3 pwynt
Gât ddiogelwch3 pwynt

Atgyweiriadau a dodrefn newydd

Weithiau mae pethau'n mynd o'i le ac mae offer yn torri.  Os yw hyn yn digwydd byddwn yn anfon peiriannydd i atgyweirio'r offer ac os na allwn wneud hynny, byddwn yn gosod offer newydd am ddim.

Dros amser gall dodrefn fynd yn hen ac wedi treulio. Os yw hyn yn digwydd, byddwn hefyd yn gosod dodrefn newydd gan roi tawelwch meddwl i chi ac i osgoi biliau annisgwyl, gan fod hyn wedi'i gynnwys yn eich cost wythnosol.

Mae eithriad i hyn os ydym yn canfod mai chi sydd wedi achosi'r difrod.  Yn yr achos hwn efallai y byddwn yn eich anfonebu am y difrod.

Hyblygrwydd

Os ydych chi'n teimlo nad oes angen eitem arnoch mwyach, byddwn yn eich chasglu gennych. Efallai y byddwch yn gymwys i dalu pris wythnosol is.Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn dychwelyd eitemau i ni mewn cyflwr da neu gallwn eich anfonebu am y difrod.

Gallwch ddod â'ch tenantiaeth wedi'i dodrefnu i ben ar unrhyw adeg. Cysylltwch â ni a byddwn yn trefnu i gasglu popeth gennych ac yn dod â'ch cytundeb i ben.

Close Dewis iaith