Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Byw'n annibynnol (tai lloches)

Bydd llety byw'n annibynnol yn darparu eiddo hunangynhwysol i chi i'ch galluogi i barhau i fyw'n annibynnol, ond gyda warden dynodedig y gallwch gysylltu ag ef drwy system intercom heb adael yr eiddo.

Mae gennym dros 980 o unedau llety ar gyfer byw'n annibynnol ar hyn o bryd sydd wedi'u rhannu rhwng 31 o gyfadeiladau ar draws ardal Abertawe, gyda phob un ohonynt yn darparu:

  • gwasanaeth warden
  • cyfleusterau cymunedol
  • parcio i breswylwyr yn unig
  • digwyddiadau cymdeithasol a grŵp
  • rhent wythnosol gan gynnwys tâl gwasanaeth
  • tenantiaeth ddiogel
  • gwasanaeth atgyweirio brys 24 awr
  • dulliau amrywiol o dalu'r rhent
  • archwiliad diogelwch nwy cyn cychwyn tenantiaeth a blynyddol
  • nid oes angen blaendal

Sut i wneud cais am lety byw'n annibynnol

I wneud cais am lety byw'n annibynnol, rhaid i chi fod dros 60 oed.

Os ydych yn denant y cyngor, cysylltwch â'ch swyddfa dai ardalleol.

Os nad ydych yn denant y cyngor cysylltwch ag Opsiynau Tai.

Cyfadeiladau Byw'n Annibynnol

Gwybodaeth am ein cyfadeiladau byw'n annibynnol, eu lleoliadau a'u cyfleusterau.