Toglo gwelededd dewislen symudol

Taliadau am ofal a chefnogaeth yn y cartref

Yr hyn y disgwylir i chi ei dalu o bosib tuag at gostau eich gofal cartref a sut rydym yn cyfrifo'r ffioedd.

Mae'r ffeithlen hon i oedolion yr aseswyd eu bod yn gymwys i gael gofal a chefnogaeth wedi'u rheoli i'w helpu i gynnal neu adennil eu hannibyniaeth. Gallai'ch cynllun gofal a chefnogaeth gynnwys amrywiaeth o wasanaethau wedi'u darparu neu eu trefnu ar eich rhan gan Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe. Gallech chi ddisgwyl cael rhywfaint o help a chefnogaeth ymarferol wrth wneud tasgau personol neu gartref y byddai'n anodd i chi barhau i fyw gartref heb hynny.

Mae'r taliadau rydym yn eu codi'n cyfrannu at gost eich gofal a'ch cefnogaeth. Mae'r taliadau hyn, a'r ffordd rydyn ni'n eu cyfrifo, yr un peth p'un a ddarperir y Gwasanaeth Gofal Cartref Integredig neu gan asiantaeth gofal annibynnol sy'n gweithio ar ran y cyngor.

Os nad ydych wedi cael asesiad o'ch anghenion yn barod, yn gyntaf bydd angen i chi gael asesiad gofal i ddarganfod a ydych yn gymwys i dderbyn gofal cartref gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

2.Cysylltwch â'r Pwynt Mynediad Cyffredin i gael asesiad Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC)


Y sail ar gyfer codi tâl

I sicrhau bod y taliadau rydym yn eu codi'n deg, rydym yn defnyddio Polisi Codi Tâl sy'n seiliedig ar ddarpariaethau Deddf Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Yn agor ffenestr newydd) gan gynnwys:

Defnyddir y Polisi Codi Tâl i benderfynu a fydd rhywun yn talu:

  • Dim tuag at gost gofal cartref.
  • Y gost lawn am eu gofal. Caiff hyn ei gyfrifo yn ôl nifer yr oriau a geir, ar gyfradd o £23.16 yr awr, hyd at uchafswm o £100 yr wythnos.
  • Rhan o'r costau gofal, ond nid y taliad llawn. Bydd yr union swm yn dibynnu ar faint o arian sydd ganddynt bob wythnos, ar ôl talu costau penodol.

Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, byddwn yn penderfynu faint y byddant yn ei dalu drwy gynnal asesiad ariannol. Serch hynny, mae rhai pobl a fydd yn cael eu gofal am ddim yn awtomatig (cyhyd â'u bod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth) heb orfod cael asesiad ariannol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Oedolion â phroblemau iechyd meddwl sy'n derbyn gwasanaethau ôl-ofal ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty o dan Adran 117 Deddf Iechyd Meddwl 1983, lle mae'r angen am wasanaethau dibreswyl wedi'i nodi'n benodol yn y cynllun gofal.
  • Oedolion sy'n cael diagnosis eu bod yn dioddef o glefyd Creuzfeldt Jacob (CJD).
  • Oedolion sy'n derbyn gofal fel rhan o becyn ailalluogi, am hyd at 6 wythnos. (D.S. Byddai unrhyw amser a dreulir mewn uned asesu breswyl yn rhan o'r 6 wythnos.)

 

Yr asesiad ariannol ar gyfer eich gofal cartref

6.Ar ôl i ni asesu eich bod yn gymwys ar gyfer gwasanaeth gofal cartref, byddwn yn cynnal asesiad ariannol i benderfynu faint y byddwch yn ei dalu (ac eithrio'r rheini sydd wedi'u heithrio).

Cwestiynau cyffredin ynghylch yr asesiad ariannol gofal cartref

Rhestr o'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am asesiad ariannol ar gyfer gofal cartref.
Close Dewis iaith