Chwilio'r wefan
English

Their Finest

Treuliodd actorion a chriw 'Their Finest', comedi ramantus wedi'i gosod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sawl wythnos yn ffilmio yn adeiladau Abertawe, gan gynnwys Neuadd y Ddinas a Theatr y Grand, yr hydref diwethaf.

Gyda Gemma Arterton, Sam Clafin, Bill Nighy a Jeremy Irons ymhlith y sêr sy'n actio ynddi, mae'r ffilm yn adrodd stori tîm o Weinyddiaeth Wybodaeth Prydain wrth iddynt fynd ati i greu ffilm i hybu morâl am ymgiliad Dunkirk yn ystod Brwydr Prydain a Blitz Llundain.

Bu Cyngor Abertawe'n gweithio'n agos gyda'r cwmni cynhyrchu sy'n gyfrifol am y ffilm i sicrhau bod eu defnydd o Theatr y Grand a Neuadd y Ddinas mor ddidrafferth â phosib.

"Swansea was a great base for us, good hotels, a short drive to all locations with plenty of facilities parking and access for our departments, and friendly helpful people. Creatively, we found terrific period (late 30's/early 40's) locations, especially in the interiors of the Guildhall which were a wonderful match for the exterior Senate House in London and needed very little changing.  In days off, our cast and crew made ample use of the beautiful beaches close by too!"

Amanda Posey & Stephen Woolley, Producers, Their Finest

Helpodd y cyngor i hwyluso gwaith ffilmio ar Stryd Morgannwg a ger Heol Parc y Rhyddings hefyd.

Their Finest

Wedi'i bweru gan GOSS iCM