Toglo gwelededd dewislen symudol

Themâu ac amcanion allweddol GGLlPBA

O'r canfyddiadau a nodwyd fel rhan o'r Astudiaeth Ymchwil i'r Diwydiant Pysgota yn 2015 a'r adborth o'r ymgynghoriad â rhanddeiliaid ar ddechrau mis Medi 2016, cafwyd cyfres o faterion allweddol i'r amlwg.

Mae'r materion allweddol hyn wedi cael eu grwpio yn ôl 5 thema, sydd hefyd yn darparu'r cyd-destun ar gyfer yr amcanion y cytunwyd arnynt gan y GGLlPBA a nodwyd dan Adran 3 sy'n cyd-fynd â'r nodau a'r amcanion a'r amlinellir ym Mlaenoriaeth Undeb 4 Rhaglen Weithredol Cronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop. 

Themâu allweddol

Thema 1: Ychwanegu gwerth, creu swyddi, denu pobl ifanc a hyrwyddo arloesedd ar bob cam o gadwyn gyflenwi cynnyrch pysgodfeydd a dyframaethu.

Amcan 1:  Gwella cysylltiadau gyda chynhyrchwyr bwyd lleol eraill a chynhyrchwyr eraill

Amcan 2:  Cyflawni cysylltiadau gwell ag ysgolion a cholegau i annog pobl ifanc i helpu i ddatblygu'r sector

Amcan 3:  Cefnogi cyflwyniad prosiectau isadeiledd bach i annog twf cynaliadwy yn y diwydiant

Amcan 4:  Creu cyfleoedd i rwydweithio, marchnata a hyrwyddo'r diwydiant lleol, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi.

Amcan 5:  Darparu cefnogaeth i roi cynnig ar brosesau newydd neu ychwanegu gwerth at gynnyrch i helpu cwmnïau bach yn y diwydiant pysgota i dyfu.

 

Thema 2: Cefnogi gwaith arallgyfeirio y tu mewn i bysgodfeydd masnachol neu'r tu allan iddynt, darparu dysgu gydol oes a chreu swyddi mewn pysgodfeydd ac ardaloedd dyframaethu.

Amcan 6:  Cefnogaeth i fusnesau nodi cyfleoedd dargyfeirio a dysgu sgiliau newydd yn y sector a'r tu allan iddo. 

Amcan 7:  Darparu cyfleoedd i ddatblygu'r sector twristiaeth sy'n gysylltiedig â physgodfeydd lleol, gan gynnwys 'twristiaeth bysgod', eco-dwristiaeth a chyfleusterau i dwristiaid.

 

Thema 3: Gwella asedau amgylcheddol pysgodfeydd ac ardaloedd dyframaethu a manteisio arnynt, gan gynnwys gweithrediadau i liniaru newid yn yr hinsawdd.

Amcan 8:  Nodi a datblygu ffynonellau incwm eraill ar gyfer y diwydiant pysgota, megis ynni adnewyddadwy.

Amcan 9:  Gwneud yn fawr o'r amgylchedd naturiol lleol

Amcan 10:  Datblygu agweddau treftadaeth a thwristiaeth y glannau mewn modd cynaliadwy a chytbwys.

 

Thema 4: Hyrwyddo lles cymdeithasol a threftadaeth ddiwylliannol mewn pysgodfeydd ac ardaloedd dyframaethu, gan gynnwys treftadaeth ddiwylliannol pysgodfeydd, dyframaethu ac ardaloedd morol.

Amcan 11:  Cefnogaeth i hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol, dyframaethu a diddordebau morol.

 

Thema 5: Datblygu a llywodraethu adnoddau pysgodfeydd lleol a gweithgareddau morol yn lleol.

Amcan 12:  Cynnwys cymunedau a chynrychiolwyr lleol ymhellach er mwyn cefnogi a hyrwyddo'r diwydiant lleol.

Close Dewis iaith