Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Twyll budd-dal

Cewch wybod mwy am dwyll budd-dal a sut gallwch helpu i'w atal.

Sut gallaf roi gwybod am dwyll?

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor

Os ydych yn credu fod rhywun yn cyflawni twyll Gostyngiad Treth y Cyngor, gallwch adrodd amdano ar-lein. Gweler isod am y gwahanol fathau o dwyll budd-daliadau.

Mae'n rhaid i ni gael rheswm da dros ymchwilio i rhywun am dwyll budd-daliadau felly bydd y ffurflen yn gofyn i chi roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch.

Mae'r wybodaeth rydych yn ei darparu yn gwbl gyfrinachol ac nid oes rhaid i chi roi eich enw os nad ydych yn dymuno.

Twyll Budd-dal Tai a budd-daliadau eraill

Os ydych yn credu bod rhywun yn cyflawni twyll budd-dal tai neu dwyll budd-daliadau eraill gallwch roi gwybod amdano ar-lein i'r Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) (Yn agor ffenestr newydd). Gallwch wneud adroddiad yn ddienw - nid oes rhaid i chi roi eich enw na'ch manylion cyswllt oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny.

Bydd yn ystyried yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu ac yn cysylltu â'r cyngor lle bo hynny'n berthnasol.

Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y person rydych yn rhoi gwybod amdano. Gallai hyn gynnwys:

  • ei enw
  • ei gyfeiriad
  • y math o dwyll rydych yn credu y mae'n ei gyflawni.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi adrodd am rywun?

Byddwn yn edrych ar yr wybodaeth rydych yn ei rhoi ac os ydych wedi rhoi digon o wybodaeth byddwn yn gallu  gwirio cais y person ond ni allwn ddweud canlyniad ein hymchwiliadau wrthych.

Weithiau ni fydd unrhyw gamau'n cael eu gweithredu. Efallai bod y person wedi datgan newid yn ei amgylchiadau ac nid yw ei fudd-dal yn cael ei effeithio ganddo.

Byddwn yn cymryd camau gweithredu  os byddwn yn darganfod fod y person wedi bod yn twyllo. Gall camau gynnwys tynnu budd-daliadau oddi ar berson a'i erlyn yn y llys.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - dweud am waith heb ei ddatgan

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sy'n gweithio ond nad yw wedi'i ddatgan.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - dweud am waith gan bartner heb ei ddatgan

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sydd â phartner nad yw wedi'i ddatgan.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - dweud am dir neu eiddo heb ei ddatgan

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sy'n berchen ar dir neu eiddo nad ydynt wedi'i ddatgan.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - dweud am arbedion heb eu datgan

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sydd â chynilion ond nad yw wedi'u datgan.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - Rhoi gwybod am rywun sy'n byw yn rhywle arall

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sy'n hawlio budd-dal mewn un cyfeiriad ac yn byw yn rhywle arall.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - Rhoi gwybod am fath arall o dwyll

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sy'n cyflawni math arall o dwyll er enghraifft incwm heb ei ddatgan.
Close Dewis iaith