Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gweithredoedd twyllodrus Coronafeirws

Manylion gweithredoedd twyllodrus sy'n ymwneud â COVID-19. Mae nifer o weithredoedd twyllodrus i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon wrth i ni gael gwybod am weithredoedd twyllodrus newydd.

Mae Safonau Masnach Abertawe yn rhybuddio pobl i fod yn arbennig o wyliadwrus rhag nifer o weithredoedd twyllodrus sydd ar waith ar hyn o bryd ac sy'n manteisio ar bryderon pobl ynghylch Coronafeirws.

Diweddariad 16 Chwefror 2022

Grantiau a chronfeydd cymorth

Sylwer bod cynnydd yn ddiweddar yn nifer y sgamiau sy'n ymwneud â COVID-19 lle mae troseddwyr yn cysylltu â busnesau/phobl dros y ffôn a thrwy e-bost gan ddweud wrthynt fod eu grant COVID wedi'i gymeradwyo ac yn gofyn am eu manylion personol i gwblhau'r cais.

Mae ein timau Cyllid wedi derbyn nifer o alwadau yn ddiweddar gan aelodau pryderus o'r cyhoedd y cysylltwyd â nhw o ffynhonnell anhysbys. Mae'r manylion hyn yn rhan o weithred droseddol ac unig fwriad y twyllwr a gysylltodd yw dwyn eich arian a'ch data.

Mae Cyngor Abertawe ar hyn o bryd yn gweithredu nifer o grantiau a chronfeydd cymorth COVID ar ran Llywodraeth Cymru.Dyma rai pwyntiau allweddol:

  • O bryd i'w gilydd bydd y cyngor yn anfon e-byst yn gwahodd ceisiadau gan aelodau'r cyhoedd neu fusnesau lle bo'n briodol gwneud hynny er mwyn sicrhau bod cymaint â phosib yn manteisio ar y cymorth ariannol yn ein hardal. Defnyddir cyfeiriad e-bost cyfreithlon abertawe.gov.uk neu lythyr gyda'n logo swyddogol i gysylltu a'r bobl hynny.
  • O bryd i'w gilydd bydd y cyngor yn ffonio aelodau o'r cyhoedd i ddweud wrthynt am wneud cais am grant ond byddem yn dweud wrthynt am wneud cais drwy ffurflen ar-lein. Ni fyddem yn gofyn am unrhyw fanylion personol. Fodd bynnag, os byddwch yn ein ffonio ac yn gofyn am gymorth wrth lenwi'r ffurflen, bydd yn rhaid i ni ofyn i chi am unrhyw fanylion personol sydd eu hangen i ni ddarparu'r cymorth hwnnw.
  • Os bydd aelod o'r cyhoedd yn derbyn galwad ffôn o ffynhonnell anhysbys ac yn pryderu nad yw'r cyswllt yn ddilys, dylent ddod â'r sgwrs i ben ac e-bostio budd-daliadau@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 635353 rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes unrhyw fusnes am fynegi pryder dylai e-bostio trethibusnes@abertawe.gov.uk.

Sgamiau CThEM

Mae Cyllid a Thollau EM yn ymwybodol o sgam galwad ffôn awtomataidd a fydd yn dweud wrthych fod CThEM yn cyflwyno achos cyfreithiol yn eich erbyn, ac i bwyso 1 i siarad â gweithiwr achos. Sgam yw hwn a dylech ddod â'r alwad i ben ar unwaith. Os ydych yn gwasgu 1, mae'n debyg y byddwch yn wynebu bil ffôn mawr.

Mae sgamiau eraill CThEM yn cynnwys derbyn credyd cynllun cymhorthdal incwm cyflogaeth neu gynnig ad-daliad treth mewn cysylltiad â phandemig COVID-19. Cofiwch, ni fydd CThEM byth yn anfon hysbysiadau drwy e-bost am ad-daliadau treth neu ad-daliadau ac ni fyddant byth yn gofyn am wybodaeth bersonol neu ariannol pan fyddant yn anfon negeseuon testun. Gellir cael rhagor o wybodaeth am CThEM ar eu gwefan.

Rhowch wybod i'ch teulu a'ch ffrindiau am y pwyntiau uchod fel y gallant gadw'n ddiogel ac osgoi cael eu twyllo. Bydd unrhyw ddata personol a ddarperir i'r twyllwr yn cael ei ddefnyddio'n dwyllodrus. Yn anffodus, mae gan dwyllwyr y gallu i ffugio cyfeiriad e-bost dilys neu newid yr 'enw arddangos' i wneud iddo ymddangos yn ddilys felly mae angen i chi fod yn ymwybodol o hynny. Os nad ydych yn siŵr, peidiwch ag ymateb a defnyddiwch y manylion cyswllt uchod.

Diweddariad 5 Hydref 2021

Mae nifer o weithredoedd twyllodrus i chi fod yn ymwybodol ohonynt o hyd. Os ydych yn poeni am neges destun, e-bost neu bost ar gyfryngau cymdeithasol, peidiwch â chlicio ar unrhyw un o'r dolenni a chysylltwch ag Action Fraud (Yn agor ffenestr newydd). Ni ddylech drosglwyddo unrhyw arian na manylion personol drwy'r negeseuon hyn.

Twyll pas COVID

Mae negeseuon yn cael eu hanfon sy'n dweud wrthych i gyflwyno cais am bas COVID ac yn eich hysbysu y gallech wynebu dirwy os nad ydych yn gwneud hynny.

Mae hwn yn weithred dwyllodrus. Mae'r negeseuon hyn yn cael eu hanfon mewn sawl fformat - gwiriwch yn ofalus unrhyw neges destun rydych yn ei derbyn mewn perthynas â COVID neu oddi wrth y GIG.

Gallwch gael gwybodaeth am basiau COVID swyddogol o wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r pasiau hyn am ddim. 

 

Coronavirus payment scam example
Twyll taliad Llywodraeth y DU

Mae un weithred dwyllodrus sy'n honni ei fod yn dod o Gyngor Abertawe drwy wefan Llywodraeth y DU ac yn addo taliad os bydd pobl yn darparu manylion cerdyn, gan gynnwys eu rhif côd diogelwch.

Twyll yw hwn. Nid menter gan y cyngor ydyw. Peidiwch ag ymateb iddo.

 

Diweddariad 1 Mai 2020

Gweithredoedd twyllodrus eraill sy'n ymwneud â Coronafeirws

Dyma rai o'r gweithredoedd twyllodrus rydyn ni'n ymwybodol ohonyn nhw, ond sylwer bod troseddwyr o bob lliw a llun o'n cwmpas a gallant gysylltu â chi wrth y drws, dros y ffôn, drwy'r post neu ar-lein:

  • Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sy'n cynnig gwellhad gwyrthiol - does dim ffordd o iacháu pobl o Coronafeirws ar hyn o bryd. Bwriad y driniaeth yw lliniaru'r symptomau nes i chi wella.
  • Gwasanaethau Diheintio'r Cartref.
  • Pobl yn dynwared gweithwyr gofal iechyd, gan honni eu bod yn cynnig 'profion cartref' ar gyfer Coronafeirws.
  • Mae e-byst sy'n dweud y gallwch gael ad-daliad ar drethi, biliau cyfleustodau neu debyg fel arfer yn ffug ac maent yn ceisio cael gafael ar eich manylion personol ac ariannol.
  • Mae llawer o gynhyrchion ffug ar gael i'w prynu ar-lein sy'n dweud y gallant eich amddiffyn rhag Coronafeirws. Dilynwch gyngor y llywodraeth ar amddiffyn eich hun a sicrhewch eich bod yn prynu unrhyw gynhyrchion amddiffynnol (fel hylif diheintio dwylo) oddi wrth gwmnïau dilys.
  • Mae rhaglenni ffônau symudol newydd sy'n honni eu bod yn rhoi diweddariadau i chi ar y feirws ond yn lle gwneud hynny, maen nhw'n cloi eich ffôn ac yn eich bygwth am arian.
  • Ni fydd eich banc na'r heddlu yn gofyn am eich manylion banc dros y ffôn.
  • Pobl yn cynnig gwneud eich siopa neu gasglu meddyginiaeth a gofyn am arian ymlaen llaw ac yna'n diflannu.
  • Dynwared swyddogion, gan gynnwys swyddogion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac asiantaethau'r llywodraeth.
  • E-byst gwasanaeth tanysgrifio a ffrydio yn gofyn i chi ddiweddaru'ch cyfrif neu'n gofyn am fanylion personol.

Awgrymiadau ar gyfer sut i osgoi gweithredoedd twyllodrus:

  • Cymerwch eich amser; peidiwch â rhuthro.
  • Os bydd rhywun yn honni ei fod yn cynrychioli elusen, gofynnwch iddo am ei gerdyn adnabod. Byddwch yn amheus o geisiadau am arian ymlaen llaw.
  • Peidiwch â thybio bod pawb yn onest. Mae'n iawn i chi wrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau. Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio'ch rhuthro neu'ch dychryn. Holwch deulu a ffrindiau cyn derbyn cynigion am gymorth os ydych yn ansicr.
  • Os ydych ar-lein, byddwch yn ymwybodol o newyddion ffug a defnyddiwch ffynonellau dibynadwy fel gwefannau www.gov.uk (Yn agor ffenestr newydd) neu'r www.nhs.uk (Yn agor ffenestr newydd). Gwnewch yn siŵr eich bod yn teipio'r cyfeiriadau wrth chwilio am bethau a pheidiwch â chlicio ar ddolenni mewn e-byst na negeseuon.
  • Prynwch nwyddau gan fanwerthwyr cyfreithlon yn unig a phwyllwch a meddyliwch cyn rhoi arian neu wybodaeth bersonol i unrhyw un.
  • Byddwch yn ymwybodol o bwy rydych chi'n delio ag ef - os oes angen help arnoch, siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo.
  • Diogelwch eich gwybodaeth ariannol, yn enwedig wrth ymdrin â phobl nad ydych yn eu hadnabod. Peidiwch byth â rhoi eich cerdyn banc na'ch PIN i ddieithryn.
  • Byddwch yn amheus o geisiadau sy'n gofyn i chi ddiweddaru manylion eich cyfrif. Os bydd rhywun yn rhoi pwysau arnoch, mae'n annhebygol ei fod yn ddilys.
Close Dewis iaith