Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Uned Cefnogi Cymdogaethau

Mae'r Uned Cefnogi Cymdogaethau yn darparu gwasanaeth landlordiaid 24 awr ar ein stadau.

Maent yn:

  • cefnogi'r swyddfeydd tai ardal wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • darparu diogelwch i eiddo gwag y cyngor drwy osod, monitro ac ymateb i larymau sy'n cael eu hactifadu
  • monitro CCTV ar nifer o stadau tai'r cyngor
  • ymateb i ddigwyddiadau ac yn cynnal patrolau ar droed a theithiol o ddigwyddiadau newydd
  • cyflenwi, cynnal ac ymateb i larymau byrgleriaeth sy'n cael eu hactifadu - mae'r rhain ar gael i denantiaid os ydynt wedi dioddef byrgleriaeth, trais domestig, aflonyddwch neu os ydynt yn rhan o'r cynllun cefnogaeth i dystion. Nifer cyfyngedig o larymau sydd ar gael, ond asesir pob cais.
  • cael gwared ar graffiti sarhaus 

Am gyngor anffurfiol gallwch gysylltu â'r swyddfa cymorth cymdogaeth dryw ffonio 01792 513940 yn ystod oriau swyddfa neu 01792 648507 y tu allan i oriau gwaith neu ar gyfer argyfyngau.

Nid yw'r Uned Cefnogi Cymdogaethau yno i ddisodli'r heddlu - os ydych chi'n gweld rhywun yn cyflawni trosedd, dylech gysylltu â'ch heddlu lleol neu ffonio 999 os yw'n argyfwng.

Mae gan Crimestoppers rif ffon am ddim hefyd, sef 0800 555 111 os oes gennych unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â throsedd.

Enw
Uned Cefnogi Cymdogaethau
Rhif ffôn
01792 648507
Close Dewis iaith