Chwilio'r wefan
English
Mouse for computer

Gwylio cyfarfodydd drwy weddarllediad

O'r fan yma byddwch yn gallu mynd i'r adran gweddarllediadau ar gyfer gweld cyfarfodydd byw'r cyngor. Mae'r cyfarfodydd sydd ar ddod a'n gweddarllediadau mwyaf diweddar wedi'u cynnwys ar ochr dde'r dudalen hon.

Cyfarfodydd pwyllgorau gwylio - byw ac archifYn agor mewn ffenest newydd (Y Cyngor a'r Cabinet)

Beth yw gweddarllediad?

Trosglwyddo sain a fideo dros y rhyngrwyd yw gweddarllediad. Mae camerâu fideo yng nghyfarfodydd y cyngor yn recordio gwybodaeth fyw a thrwy ddefnyddio eich cyswllt â'r rhyngrwyd, gallwch wylio'r cyfarfodydd hyn yn fyw o gysur eich cartref.

Os byddwch yn colli cyfarfod, neu os hoffech wylio rhan o gyfarfod eto, yna gallwch wylio archif y gweddarllediad. Bydd hyn yn eich galluogi i wylio'r cyfarfod yn eich amser hamdden, gan ddefnyddio pwyntiau'r mynegai i ddewis eitemau penodol ar yr agenda neu siaradwyr drwy'r llinell amser.

 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM