
Wythnos Dysgwyr Oedolion 2020
Gan adeiladu ar lwyddiant ein Gŵyl Ddysgu Abertawe yn 2019, mae Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Abertawe yn darparu sesiynnau blasu AM DDIM cyffrous i ddathlu'r Wythnos Dysgwyr Oedolion sydd ar ddod.
Mae ein sesiynau blasu ar gael ar-lein nawr, tan ddiwedd mis Medi.
Wythnos Dysgwyr Oedolion yw'r ymgyrch dysgu oedolion fwyaf yng Nghymru. Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli ac annog miloedd o oedolion bob blwyddyn i barhau i ddysgu trwy amrywiaeth eang o ffurfiau, gan godi ymwybyddiaeth o werth dysgu oedolion a sut y gall dysgu newid eu bywydau yn gadarnhaol.