Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Beth yw cyfansoddiad corff llywodraethu?

There are several different types of school governor.

Rhiant-lywodraethwyr
Caiff Rhiant-lywodraethwyr eu hethol gan rieni disgyblion sy'n mynd i'r ysgol. Mae rhiant-lywodraethwyr yn gallu parhau yn eu rôl fel llywodraethwr, tan ddiwedd eu cyfnod llywodraethu, hyd yn oed os nad yw eu plentyn bellach yn ddisgybl yn yr ysgol.

Athro-lywodraethwyr
Cyflogir athro-lywodraethwyr i weithio yn yr ysgol ac mae athrawon yn yr ysgol yn eu hethol

Staff-lywodraethwyr
Mae staff-lywodraethwyr yn staff a gyflogir yn yr ysgol i wneud gwaith nad yw'n cynnwys addysgu ac maent yn cael eu hethol o'r staff nad ydynt yn addysgu yn yr ysgol.

Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol (AALl)
Penodir y llywodraethwyr hyn gan aelodau etholedig y cyngor. Gall llywodraethwyr AALl fod yn Gynghorwyr Sir neu'n ymgeiswyr a benodir ganddynt.

Llywodraethwyr cymunedol
Penodir y llywodraethwyr hyn gan y corff llywodraethu. Fel arfer, mae llywodraethwyr cymunedol yn byw neu'n gweithio yng nghymuned neu ardal yr ysgol ac yn dod â'u harbenigedd eu hunain i'r corff llywodraethu.

Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol
Pan fydd cyngor cymuned yn gwasanaethu cymuned, mae'r cyngor cymuned yn gallu enwebu cynrychiolydd i eistedd ar y corff llywodraethu.

Llywodraethwyr sylfaenol
Penodir y llywodraethwyr hyn ar gyfer cyrff llywodraethu a gynorthwyir yn wirfoddol (eglwys) i gynrychioli diddordeb yr awdurdod eglwysig a sefydlodd yr ysgol. Mae ganddynt gyfrifoldeb i sicrhau y cynrychiolir credoau eu heglwys.

Pennaeth-lywodraethwr
Trwy ei benodiad, mae pennaeth yn aelod pleidleisio o gorff llywodraethu ei ysgol oni bai ei fod yn dewis peidio â bod yn llywodraethwr. Mae penaethiaid yn mynychu holl gyfarfodydd y corff llywodraethu llawn.

Clerc i'r llywodraethwyr
Nid yw'r clerc yn aelod o'r corff llywodraethu, ond mae ganddo rôl bwysig i'w chwarae i sicrhau bod y corff llywodraethu'n cael ei gynnal yn effeithlon. Mae'n gyfrifol am weinyddiaeth y corff llywodraethu; mae'n trefnu cyfarfodydd, cymryd y cofnodion etc. Mewn llawer o gyrff llywodraethu, mae hefyd yn rhoi cyngor i lywodraethwyr ar y gweithdrefnau. Nid llywodraethwr yw'r clerc i lywodraethwr ac nid oes hawl ganddo i bleidleisio.

Close Dewis iaith