Cyfle i'r cyhoedd fynegi barn ar gynllun drafft i helpu i gyflwyno Abertawe wyrddach
Gofynnir i bobl ar draws Abertawe rannu eu barn am gynllun drafft sy'n bwriadu creu dinas wyrddach.
Bydd eu syniadau a'u meddyliau'n helpu i wireddu strategaeth Adfywio'n Dinas er Lles a Bywyd Gwyllt.
Ei nod yw helpu i gyflwyno:
- dinas wyrddach, gyda llai o wynebau caled, i helpu i greu canol dinas fwy atyniadol i fyw ynddi ac sy'n fwy abl i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd;
- mwy o natur er mwyn darparu lle i fywyd gwyllt, rhoi pleser i bobl a chynnig gwell profiad i ymwelwyr a masnachwyr.
Mae'r drafft, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Green Infrastructure Consultancy, rhanddeiliaid a'r gymuned, bellach yn destun ymgynghoriad.