Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref - hawliau a chyfrifoldebau rhieni

Mae'r gyfraith yn datgan bod dyletswydd ar bob rhiant i sicrhau bod ei blentyn yn cael addysg effeithlon, amser llawn sy'n addas i'w oedran, ei allu a'i ddawn, ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd ganddo naill ai drwy fynychu'r ysgol yn rheolaidd neu fel arall.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae rhieni'n hapus i ysgol ddarparu addysg eu plentyn. O bryd i'w gilydd, mae'n well gan rieni drefnu addysg eu plentyn mewn lleoliad heblaw yn yr ysgol. (Adran 7, Deddf Addysg 1996).

Pan fydd plentyn yn cael ei addysgu gartref, penderfyniad y rhiant yw beth mae'r plentyn yn ei ddysgu a sut. Gall addysg gael ei darparu mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan y rhieni, gan aelodau o'r teulu, grwpiau bach o deuluoedd sy'n addysgu gartref neu diwtoriaid preifat. Eich cyfrifoldeb fel rhiant yw sicrhau bod yr hyn a addysgir yn helpu eich plentyn i ddysgu. Ystyrir bod addysg yn effeithlon ac yn addas os yw'n caniatáu i blentyn gyflawni ei botensial ac os yw'n ei baratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn.

Pan fydd plentyn wedi'i gofrestru yn yr ysgol ac mae'r rhiant yn dymuno rhoi addysg gartref iddo, mae'n rhaid i'r rhiant ysgrifennu i'r ysgol a gofyn i dynnu enw ei blentyn oddi ar gofrestr yr ysgol. Bydd yr ysgol wedyn yn hysbysu'r Awdurdod Lleol (ALl).

Os ywc'h plentyn o oedran cyn ysgol (yn iau na 5 oed), nid oes yn rhaid i chi wneud unrhyw beth. Fodd bynnag, os nad ydych yn bwriadu anfon eich plentyn i'r ysgol ar ôl iddo gyrraedd oedran ysgol gorfodol, byddem yn gwerthfawrogi cael gwybod am eich bwriad i barhau ag addysg yn y cartref heb gofrestru mewn unrhyw ysgol.

 

Er mwyn cadw cofnodion cywir, byddem yn ddiolchgar pe baech yn rhoi gwybod i ni am hyn drwy e-bostio:

Elective Home Education Team Elective Home Education Team

(Bydd hyn yn atal y plentyn rhag cael ei ystyried ar goll.)

 

Ydy fy mhlentyn yn gallu dychwelyd i'r ysgol?

Gallwch wneud cais am le yn yr ysgol ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd lle yn yr ysgol yr aeth eich plentyn iddi o'r blaen.

Gellir cael gwybodaeth am gais am le mewn ysgol gan: Trefniadau Derbyn.

 

Profiad gwaith

Mae'r rhieni'n gyfrifol am drefnu'r yswiriant ar gyfer unrhyw leoliadau profiad gwaith y maent yn dymuno i'r plentyn eu profi.

 

Arholiadau

Mae'n rhaid i rieni sy'n dewis addysgu eu plant yn y cartref fod yn barod i gymryd yr holl gyfrifoldeb ariannol dros gostau arholiadau.

Bydd yn rhaid i rieni ddod o hyd i ganolfan arholiadau sy'n fodlon cymryd ymgeiswyr preifat, neu ofyn i'r ALl nodi ysgol sy'n fodlon cofrestru plentyn ar gyfer yr arholiad. Efallai y bydd yn rhaid i'r rhiant dalu ffïoedd cofrestru neu ffîoedd asesu gwaith cwrs gan berson achrededig.

Fel arfer, mae gan rai grwpiau addysgu yn y cartref grwpiau astudio TGAU bach ac maent yn gysylltiedig â chanolfannau arholi er mwyn cadw costau mor isel â phosib.

 

Diogelu

Nid yw dewis rhieni i addysgu eu plentyn/plant gartref yn lliniaru cyfrifoldeb yr ALl i ddiogelu a hyrwyddo lles pob plentyn.

Mae lles ac amddiffyniad pob plentyn, y rheini sy'n mynychu'r ysgol a'r rheini sy'n cael eu haddysgu drwy ddulliau eraill, yn bryder o'r pwys mwyaf ac yn gyfrifoldeb i'r gymuned gyfan. Yn yr un modd â phlant sy'n cael eu haddysgu yn yr ysgol, efallai bydd materion amddiffyn plant yn codi mewn perthynas â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Os daw unrhyw bryderon amddiffyn plant i'r amlwg wrth ymgysylltu â phlant a theuluoedd, bydd y pryderon hyn yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau priodol gan ddefnyddio protocolau sefydledig.

Gellir hysbysu'n hasiantaethau partner, gan gynnwys Iechyd, Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Tai, Gyrfa Cymru a'r Heddlu, eich bod yn addysgu'ch plentyn/plant y tu allan i'r system ysgolion.

Mae Cyngor Abertawe wedi mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) fel sail i'w holl waith dros blant a phobl ifanc ac wedi'i roi ar waith.

 

 

Close Dewis iaith