Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol yn gymuned hapus a chynhwysol

Canfu arolygwyr fod Ysgol Gynradd Ynystawe yn ysgol hapus a chynhwysol lle mae staff a disgyblion yn trin ei gilydd gyda gofal a pharch.

ynystawe primary estyn report

Dywedon nhw fod y disgyblion drwy'r holl ysgol yn ymddwyn yn dda, yn ymwneud yn gadarnhaol â'u dysgu ac yn hapus i groesawu ymwelwyr.

Mae'r Pennaeth Michelle Burridge wedi sefydlu diwylliant sy'n gwerthfawrogi ac yn dathlu'r ysgol fel canolbwynt ar gyfer y gymuned.

Ymwelwyd â'r ysgol gan dîm o Estyn yn gynharach eleni ac mae bellach wedi cyhoeddi ei adroddiad.

Mae'n dweud, "Mae athrawon yn gwneud defnydd da iawn o'r ardal leol i gyfoethogi cwricwlwm yr ysgol ac mae ymweliadau gan grwpiau lleol, preswylwyr a llywodraethwyr yn cefnogi ymdeimlad y disgyblion o berthyn a chydberthynas yn gadarnhaol.

"Mae cwricwlwm yr ysgol yn rhoi cyfle i ddisgyblion wneud cynnydd da yn eu dysgu a'u lles drwy amrywiaeth o weithgareddau diddorol y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2024