Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i bobl ymweld â'r Tabernacl y penwythnos hwn

Fe'ch gwahoddir i weld sut mae gwaith yn datblygu ar y cyfleusterau newydd yn un o drysorau pensaernïol y ddinas.

Tabernacle Entertainment

Tabernacle Entertainment

Mae diwrnod agored yn cael ei gynnal yng nghapel hanesyddol Y Tabernacl Treforys - ac mae croeso i bawb.

Mae'r tirnod 152 oed yn destun gwaith trawsnewid sensitif wrth i waith adfywio'r Cyngor barhau er mwyn sicrhau bod y capel yn ganolbwynt i'r gymuned unwaith eto.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae gwaith gwych yn mynd rhagddo yn yr adeilad rhestredig arbennig hwn - ac rydym am roi'r newyddion diweddaraf i bobl am y cynnydd."

Disgwylir i ddiwrnod agored mynediad am ddim sy'n benodol ar gyfer teuluoedd, a fydd yn arddangos y gwelliannau gael ei gynnal yn y Tabernacl o 10am i 3pm ddydd Sadwrn.

Bydd lluniaeth am ddim a gweithgareddau am ddim gan gynnwys gweithdai gyda'r elusen ieuenctid o Abertawe, Circus Eruption, yn ogystal â cherdded ar ystudfachau, tatŵs pefr a phaentio wynebau.

Bydd adloniant, stondinau celf a chrefft, raffl, bwth lluniau digidol ac arddangosfa o waith celf gan ddisgyblion o ysgolion cynradd Tan-y-lan a'r Clâs yn Abertawe. Bydd disgyblion o Ysgol Gynradd Glyncollen yn gwerthu eitemau y maent wedi'u gwneud eu hunain.

Mae'r Tabernacl ar Woodfield Street yng nghanol Treforys. Mae ei brosiect gwelliannau'n ehangu'r ystod o weithgareddau a gynhelir yn y lleoliad ac yn denu defnyddwyr newydd.

Mae'r rheini sy'n ariannu'r gwaith yn cynnwys y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol - Pobl a Lleoedd, CADW, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Y Cynllun Cymunedol Treth Gwaredu Tirlenwi, Cronfa'r Degwm a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae partneriaid o'r gorffennol a oedd yn rhan o ddatblygu'r prosiect yn cynnwys Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, Rhagnodi Cymdeithasol y GIG, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caredig ac Addoldai Cymru.

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Gorffenaf 2024