Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau newydd wedi'u datgelu ar gyfer rhagor o adeiladau treftadaeth yn Abertawe

Mae cynlluniau wedi cael eu datgelu ynghylch dyfodol tri adeilad hanesyddol sy'n rhan o dreftadaeth ddiwydiannol wych Abertawe.

Engine Houses - future plan

Engine Houses - future plan

Mae Cyngor Abertawe eisiau achub a thrawsnewid yr adeileddau nad ydynt yn cael eu defnyddio fel rhan o'i waith i ddod â bywyd newydd i Gwm Tawe Isaf.

Mae'r cyfan yn rhan o waith adfywio Abertawe gwerth £1 biliwn dan arweiniad y Cyngor, sydd eisoes wedi cynnwys achub a thrawsnewid adeileddau treftadaeth fel Neuadd Albert.

Mae dau gais cynllunio newydd gael eu cyflwyno gan y Cyngor ar gyfer tai injans Vivian a Musgrave y gwaith copr, ac ar gyfer Sied Locomotif 'V&S Ltd. No. 1'.  Mae gan y tri adeiledd statws rhestredig.

Mae'r ceisiadau'n nodi'r canlynol: "Mae'r tai injans yn rhan annatod o dreftadaeth ddiwydiannol Abertawe. Mae'r Cyngor yn dymuno eu defnyddio unwaith eto. Hefyd, mae'r Cyngor yn dymuno gwneud gwaith adfer ar y sied locomotif - a'r gobaith yw ei defnyddio unwaith eto yn y pen draw."

Gwnaeth y Cyngor achub y ddau dŷ injan rhag pydredd parhaus sawl blynedd yn ôl. Gosodwyd pontŵn ar yr afon gerllaw.

Adeiladwyd yr adeiledd Musgrave tua 1910 ac mae'n cynnwys yr Injan Musgrave prin, yr unig un o'i bath yn y DU sydd yn ei lleoliad gwreiddiol o hyd.

Yn ôl y cynlluniau bydd cysgod yn gorchuddio elfennau allanol yr injan er mwyn gallu adfer y peiriant yn y dyfodol.

Mae'r cynlluniau'n dangos llawr mesanîn yn cael ei osod yn Nhŷ Injan Vivian, a adeiladwyd ym 1860. Byddai adeilad newydd yn cysylltu'r ddau dŷ injan.

Yn y dyfodol byddai'r tai injan yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, gan gynnwys bwytai a chaffis, mannau arddangos a siopau.

Pe bai'r cais cynllunio ar gyfer y sied locomotif yn cael ei gymeradwyo, byddai gwaith yn mynd rhagddo i adfer ac ailadeiladu'r adeilad presennol sydd bellach wedi'i ddifrodi'n adeileddol oherwydd diffyg defnydd ers blynyddoedd lawer.

Byddai amrywiaeth o ddefnyddiau posib yn y dyfodol.

Rydym bellach yn croesawu adborth gan y cyhoedd am y cynlluniau.

Mae Cyngor Abertawe'n gweithio ar gyfres o gynlluniau ar hyd coridor yr afon Tawe, gan gynnwys y tri adeilad hyn.

Mae'r cynlluniau'n cael eu hariannu gan £20 miliwn o gyllid o gynllun Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Penodwyd Wardell Armstrong, tîm ymgynghoriaeth mawr ei barch yn ne Cymru, fel yr ymgynghorwyr ar gyfer cynlluniau'r Cyngor ar safle'r gwaith copr.

Lluniau: Sut gallai tai injans Vivian a Musgrave edrych yn y dyfodol.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Medi 2024