Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwelliannau i ganol y ddinas

Mae gennym nifer o brosiectau adfywio cyffrous ar ddod yng nghanol y ddinas.

Wind Street

Mae Wind Street, lleoliad allweddol yng nghanol y ddinas, yn derbyn gwelliannau gwerth £3m.

Sgwâr y Castell

Bwriedir cyflwyno cynllun adfywio newydd ar gyfer Sgwâr y Castell er mwyn gwella'i ansawdd a'i wneud yn fwy deniadol, gwahanol a bywiog.

Y Storfa: Eich hwb cymunedol yng nghanol y ddinas

Rydym yn adeiladu hwb cymunedol aml-bwrpas yng nghanol eich dinas.

71 a 72 Ffordd y Brenin

Mae hwn yn ddatblygiad swyddfa uwch-dechnoleg newydd pwysig a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi yn hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin yng nghanol dinas Abertawe.

Bae Copr

Mae datblygiad Bae Copr yn cynnwys arena ddigidol gyfoes newydd sbon. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Bae Copr.

Gogledd Abertawe Ganolog

Creu cymysgedd o swyddfeydd, lleoliadau hamdden a phreswyl newydd sbon sy'n cysylltu canol y ddinas ag arena Bae Copr a'r glannau.

Ffordd y Brenin

Rydym wedi trawsnewid Ffordd y Brenin yng nghanol y ddinas, gyda mannau cyhoeddus newydd, parcdir wedi'i dirlunio, llwybrau beicio a ffordd gerbydau ddwyffordd, un lôn ochr yn ochr â llwybrau cerdded lletach.
Close Dewis iaith