Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnig gofal plant Cymru - cofrestru darparwyr gofal plant

Gwasanaeth digidol cenedlaethol Cymru.

Trosolwg

Mae 'cynnig gofal plant Cymru' yn rhoi cyfuniad o ofal plant ac addysg gynnar i rieni sy'n gweithio ar gyfer eu plant tair a phedair oed.

Gellir defnyddio'r cynnig gofal plan am hyd at 48 o wythnosau'r flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys 39 o wythnosau yn ystod y tymor ysgol a 30 awr ar gyfer 9 wythnos o wyliau'r ysgol.

Nid oes angen i chi ddarparu addysg gynnar, a elwir yn 'ddysgu sylfaen' hefyd, er mwyn darparu gofal plant a fydd yn cael ei ariannu o dan gynnig gofal plant Cymru.

Cymhwystra ddarparwyr

Mae'n rhaid eich bod wedi'ch cofrestru fel darparwr gofal plant gyda rheoleiddiwr. Yng Nghymru, y rheoleiddiwr a'r arolygiaeth ar gyfer gofal plant yw Arolygiaeth Gofal Cymru (Yn agor ffenestr newydd), a chynhywsir:

  • meithrinfeydd
  • gwarchodwyr plant
  • cylchoedd chwarae
  • créche
  • gofal plant y tu allan i'r ysgol fel clybiau brecwast, clybiau prynhawn a chlybiau gwyliau.

Gellir dod o hyd i arweiniad polisi yn: Gofal i blant 3 a 4 oed: canllawiau polisi ar gyfer darparwyr

Cofrestru

To register to deliver the offer: Cofrestrwch eich lleoliad gofal plant i gael cynnig gofal plant Cymru

Rhif llinell gymorth genedlaethol: 0300 062 8628

Cynnig gofal plant - Amodau a thelerau

Gall amodau a thelerau newid wrth i'r cynnig gofal plant fynd rhagddo.

Y broses adrodd a thalu

Telir cyllid yn uniongyrchol i leoliadau ar sail nifer y plant cymwys sy'n mynychu'r lleoliad ar gyfer oriau o ofal plant heb fod dros 20 awr yr wythnos, neu 30 awr yn ystod y gwyliau.

Gwybodaeth darparwyr - cwestiynau cyffredin

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am y cynnig gofal plant.

Cynnig gofal plant - sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y ffurflenni monitro gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau a ddefnyddir dan y cynnig gofal plant.
Close Dewis iaith