Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffliw adar

Mae Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI) wedi'i gadarnhau mewn nifer o leoliadau/nythfeydd adar gwyllt yng Nghymru. Mae rhai o'r lleoliadau hyn yn debygol o arwain at adar marw a/neu sâl yn cael eu golchi i'r lan, ar draethau sy'n cael eu defnyddio gan y cyhoedd.

Er mai perchennog y tir sy'n dal yn gyfrifol am benderfynu a ddylid casglu a chael gwared ar unrhyw garcasau, mae angen sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o HPAI a'r hyn y dylent ei wneud os ydynt yn dod ar draws aderyn neu adar sâl a/neu farw. 

Peidiwch â chymryd y risg o ledaenu ffliw adar

  • Cadwch ar y llwybr troed, gyda chŵn ar den
  • Peidiwch â chodi neu gyffwrdd adar sydd wedi marw neu sy'n sâl
  • Peidiwch â chyffwrdd plu adar gwyllt neu arwynebau sydd wedi'u halogi â gwastraff adar gwyllt
  • Os ydych chi'n cadw dofednod neu fathau eraill o adar, golchwch eich dwylo, glanhewch a diheintiwch eich esgidiau cyn trin eich adar
  • Os byddwch chi'in dod a hyd I unrhyw adar gwyllt marw, rhowch wybod amdanynt ar-lein. Rhowch wybod ar-lein www.gov.uk/guidance/report-dead-wild-birds neu ffoniwch linell gymorth Defra ar 03459 335577

Efallai y bydd APHA yn casglu rhai o'r adar marw ar gyfer profion gwyliadwriaeth. Fel arall, gellir cael gwared ar yr adar yn ddiogel, os bydd angen, gan yr awdurdod lleol ar dir cyhoeddus neu gan y perchennog/ rheolwr tir.

Close Dewis iaith