Toglo gwelededd dewislen symudol

Telerau defnydd cyfryngau cymdeithasol

Mae gan Gyngor Abertawe gyfrifon cyfryngau cymdeithasol gwahanol ar amrywiaeth o lwyfannau. Rydym yn hapus i'ch helpu chi mewn unrhyw ffordd y gallwn ac edrychwn ymlaen at weld eich barn a'ch adborth.

Rydym yn disgwyl i'n defnyddwyr gynnig yr un lefel o gwrteisi ag yr ydym ni'n ei chynnig iddynt hwy, felly mae gennym set fer o reolau:

  1. Mae'n rhaid i bob defnyddiwr gydymffurfio â thelerau defnydd y llwyfan cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â'r telerau defnydd hyn.
  2. Chi sy'n gwbl gyfrifol am unrhyw gynnwys rydych yn ei bostio gan gynnwys cynnwys rydych yn dewis ei rannu.
  3. Byddwn yn dileu, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, unrhyw byst rydym yn teimlo'u bod yn amhriodol,
  4. Byddwn yn adrodd am ac yn dileu unrhyw broffiliau cyfryngau cymdeithasol sy'n cael eu sefydlu gan ddefnyddio delweddau Cyngor Abertawe, gan gynnwys ffontiau, heb ganiatâd.
  5. Byddwn yn atal a/neu'n adrodd am ddefnyddwyr sy'n cyfeirio pyst/trydariadau atom sydd, yn ein barn ni, yn:
    • ddifrïol neu'n anweddus
    • cynnwys  delweddau graffig, sensitif neu sarhaus
    • twyllodrus neu'n gamarweiniol
    • torri unrhyw hawliau eiddo deallusol
    • torri unrhyw ddeddf neu reoliad
    • sbam (trydariadau negyddol a/neu ddifrïol parhaus sydd â'r bwriad o beri ymateb)
    • cynnwys gweithgarwch seiberdroseddu posib, er enghraifft, gwe-rwydo neu sgamiau

Bydd unrhyw un sy'n ymgysylltu â ni gan ddefnyddio cynnwys neu iaith sy'n cael eu cwmpasu yn y categorïau uchod yn cael ei atal a/neu hysbysir y llwyfan cyfryngau cymdeithasol cysylltiedig amdano. Bydd hyn yn ôl ein disgresiwn llwyr.

Bydd yr ataliad ar waith am chwe mis. Os torrir ein telerau defnydd eilwaith, bydd y defnyddiwr yn cael ei atal am gyfnod o 12 mis. Os bydd defnyddiwr yn torri ein telerau defnydd ymhellach, caiff ei atal yn barhaol.

Ymateb i ddefnyddwyr

  1. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ymateb i'ch ymholiadau o fewn dau ddiwrnod gwaith, ond yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn ymateb o fewn ychydig oriau yn ystod oriau gwaith.
  2. Byddwn yn ceisio'ch helpu neu'n eich cyfeirio at adrannau sy'n gallu, lle bynnag y bo modd.
  3. Ein horiau agor yw 8.30am -  5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau ac 8.30am tan 4.30pm ar ddydd Gwener. Byddwn yn ymdrin ag ymholiadau sy'n cael eu hanfon y tu allan i'r amser hwn cyn gynted â phosib pan fydd oriau gweithio'n ailgychwyn.

Sylwer:

  • Mae ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yma i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth.
  • Mae cynghorwyr yn gyfrifol am eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu hunain.
  • Nid ydym yn ymateb i byst neu negeseuon trydar masnachol eu natur.
Close Dewis iaith