Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddwch yn Abertawe

Mae gan Abertawe gryn dipyn i'w gynnig - ein treftadaeth gyfoethog, ein brwdfrydedd dros arloesedd, canol y ddinas sy'n newid ar ôl lefelau digynsail o fuddsoddiad ac ansawdd bywyd unigryw.

Mae prosiectau cyfredol yn cynnwys creu mannau gweithio modern newydd i fusnesau yng nghanol y ddinas yn ein pentref digidol ar Ffordd y Brenin.Bydd y swyddfeydd hygyrch a fforddiadwy hyn â dulliau cyfathrebu digidol blaengar yn darparu'r lleoliad delfrydol ar gyfer busnesau technoleg a chreadigol gydag ystod o amwynderau sy'n cynnig gwerth ychwanegol.

Ers ei orffen yr Arena Abertawe dan do ddigidol â lle i 3,500 o bobl yn yr ardal Bae Copr, mae'r ail gam wedi dechrau, gyda swyddfeydd newydd a mannau manwerthu wedi'u cynllunio. Mae'r Gwaith Copr yr Hafod, sef hen safle gwaith copr mwyaf y byd a datblygiad cyfleuster hamdden ceir llusg a char cebl cyffrous Skyline Enterprises ar Fynydd Cilfái a fydd yn edrych dros ganol y ddinas. Bydd yr atyniadau hyn yn denu degau ar filoedd o ymwelwyr newydd i'r ddinas ac yn creu cyfleoedd gwario a chyflenwi newydd i fusnesau.

Mae'r ddinas yn newid ac mae'n amser cyffrous i wneud busnes yn Abertawe.

Holwch

Dewch i fod yn rhan o ddinas sy'n tyfu a phrofi safon byw unigryw.

Gwelliannau i ganol y ddinas

Mae gennym nifer o brosiectau adfywio cyffrous ar ddod yng nghanol y ddinas.
Close Dewis iaith