
Buddsoddwch yn Abertawe
Dinas flaengar ar y glannau sydd wrth wraidd dinas-ranbarth ehangach Bae Abertawe yw Abertawe.
Mae mynediad i ymchwil ac arbenigedd arloesol gan brifysgolion, ansawdd bywyd uchel ac amgylchedd naturiol rhagorol yn creu lleoliad busnes unigryw.
Mae buddsoddiadau mawr gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn creu newid sylweddol o ran gallu ymchwil a dysgu a chydweithio rhwng y byd academaidd/diwydiant - gan atgyfnerthu sefyllfa Abertawe fel Dinas Arloesedd.
I ategu hyn, bydd cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid canol dinas Abertawe drwy ddatblygiadau masnachol, tai, manwerthu a hamdden yn atgyfnerthu ei rôl fel prif ysgogwr economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe, gan greu swyddi a thwf.
(Delwedd o Fae Abertawe © Croeso Cymru)