Toglo gwelededd dewislen symudol

Hygyrchedd y wefan

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.abertawe.gov.uk, a gynhelir gan Gyngor Abertawe.

Rydym am i gymaint o bobl ag y bo modd ddefnyddio'r wefan hon. Mae hynny'n golygu y dylech chi allu wneud y canlynol:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • Chwyddo i mewn hyd at 400% heb fod y testun yn diflannu i ochrau'r sgrîn
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio'r rhaglen darllen sgrîn (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y wefan mor hawdd i'w deall ag y bo modd.

Rydym wedi dylunio'r wefan hon gyda nodweddion sy'n ei gwneud yn haws i'w defnyddio gan bawb, gan gynnwys y rhai hynny gydag anableddau gweld, anabledd clywedol, corfforol, lleferydd, gwybyddol neu anabledd niwrolegol. Ein nod yw cyrraedd lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG) 2.1. Dyma'r safon ryngwladol ar gyfer gwefannau a chynnwys hygyrch.

Mae gan AbilityNet gyngor ar addasu'ch dyfais i'w wneud yn fwy hwylus os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Ry'n ni'n ymwybodol nad yw rhai adrannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch, er enghraifft:

  • Nid oes mod darllen llawer o ddogfennau PDF hŷn gyda meddalwedd darllen sgrîn
  • Mae rhaid tudalennau'n dangos map sy'n gallu bod yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrîn a defnyddwyr bysellfyrddau ei ddefnyddio, er enghraifft hawliau tramwy map
  • Mae rhaid tudalennau'n dangos map Google sy'n gallu bod yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrîn a defnyddwyr bysellfyrddau ei ddefnyddio.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Ry'n ni'n wastad yn ceisio sicrhau bod y wefan hon mor hwylus ag y bo modd

Os oes gennych gwestiwn am hygyrchedd sy'n cynnwys:

  • Cael trafferth cael hyd i wybodaeth neu ddefnyddio'r wefan
  • Canfod problem hygyrchedd nas restrir ar y datganiad hwn
  • Os oes gennych sylwadau cadarnhaol am sut ry'n ni wedi llunio'r wefan i sicrhau y gallwch ei defnyddio'n hwylus

Cysylltwch â:

Y Tîm We
E-bost: webmaster@swansea.gov.uk
Ffôn: 01792 636910

Gwybodaeth mewn ffurfiau eraill

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn diwyg gwahanol, megis PDF hygyrch, print mawr, diwyg hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

E-bost: webmaster@swansea.gov.uk
Ffôn: 01792 636910

Byddwn yn ystyried eich cais ac fe ddown ni yn ôl atoch cyn gynted ag y bo modd

Os na allwch chi weld y map ar y tudalen 'Cysylltwch â ni'n bersonol', ffoniwch ni neu anfonwch e-bost i gael cyfarwyddiadau.

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni wyneb yn wyneb

Mae dolenni sain clywedol ar gael yn ein swyddfeydd.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/cysylltwchani i weld sut y gallwch chi gysylltu â ni.

Y Weithdrefn Orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ynghylch sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth a Chynghori Cydraddoldebau (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i sicrhau y gallwch ddefnyddio ei wefan yn hwylus, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â fersiwn AA 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We  oherwydd y diffygion cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

  • Defnyddir y chwaraewr fideo Facebook i fewnosod ffrydiau fideo byw wedi'u harchifo. Mae'n cydymffurfio'n rhannol. Mae rheolyddion chwaraewyr wedi'u labelu'n dda. Mae rhai eitemau heb eu labelu o fewn y chwaraewr sy'n ymddangos yn y drefn ffocws. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2.
  • Nid oes gan rai iframes ar y wefan deitl disgrifiadol ar gyfer technoleg gynorthwyol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2.
  • Nid oes gan rai o'n tablau briodoledd 'cwmpas'. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1. Nid yw ein System Rheoli Cynnwys yn caniatáu i ni osod y nodwedd hon ar hyn o bryd. Rydym wedi cysylltu â'n cyflenwr a gofyn am ychwanegu'r nodwedd hon.
  • Mae nifer fach o dudalennau yn hepgor lefelau pennawd ee o H1 i H3. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.6. Bydd y tudalennau hyn yn cael eu diwygio erbyn 1 Mai 2022.
  • Mae rhai o'n dogfennau PDF a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau ac nid ydynt yn bodloni'r safonau hygyrchedd am wahanol resymau. Rydym yn y broses o nodi'r rhain ac rydym eisoes wedi dechrau trosi'r PDFs â'r flaenoriaeth uchaf yn yr adrannau Gofal Cymdeithasol i dudalennau gwe hygyrch.

Cynnwys nad yw'n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw'r rhan fwyaf o'n dogfennau PDF a'n dogfennau Word yn bodloni safonau hygyrchedd. Er enghraifft, efallai nad ydynt wedi eu gosod fel eu bod yn hygyrch ar gyfer darllenydd sgrîn. Nid yw hwn yn bodloni maen prawf llwyddo 4.1.2 WCAG 2.1 (enw, gwerth rôl).

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni unioni dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cywiro hen gylchlythyrau PDF, posteri neu ddeunydd ymgyrch a all fod ar gael i'w gyrchu o hyd.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word y byddwn yn eu cyhoeddi'n diwallu'r safonau hygyrchedd.

Nid yw llawer o'n dogfennau polisi wedi cael eu hysgrifennu mewn Cymraeg neu Saesneg clir. Mae'r mathau hyn o ddogfennau wedi'u heithrio o'r rheoliadau gan 'nad oes eu hangen at ddibenion gweinyddu mewn perthynas â'r tasgau a wneir', felly ar hyn o bryd nid ydym yn bwriadu dwyn y dogfennau hyn i drefn i'w gwneud yn hygyrch. 

Fideos byw

Nid oes gan ffrydiau fideo byw gapsiynau. Mae hwn yn methu maen prawf llwyddo 1.2.4 WCAG 2.1 (capsiynau - byw).

Nid ydym yn arfaethu ychwanegu capsiynau i ffrydiau fideo byw oherwydd eu bod fideo byw wedi'i eithrio o'r rheoliadau hygyrchedd.

Fideos a recordiwyd ymlaen llaw cyn 23 Medi 2020

Nid yw'r rhan fwyaf o'n fideos a recordiwyd ymlaen llaw a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 yn cynnwys capsiynau byw. Nid yw hwn yn diwallu maen prawf llwyddo 1.2.2 WCAG 2.1 Capsiynau (a recordiwyd ymlaen llaw). Efallai na fyddwn yn ychwanegu capsiynau at y fideos hyn oherwydd bod fideos a recordiwyd ymlaen llaw wedi eu heithrio o'r rheoliadau hygyrchedd.

Efallai y bydd rhaid i rai fideos a recordiwyd ymlaen llaw cyn 23 Medi 2020 gael disgrifiad sain - ond nid yw hwn wedi'i gynnwys. Nid yw hwn yn cwrdd â maen prawf llwyddo 1.2.5 WCAG 2.1 sain ddisgrifio (a recordiwyd ymlaen llaw). Ni fyddwn yn ychwanegu sain ddisgrifio at y fideos hyn oherwydd bod fideos a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 wedi'u heithrio o fodloni rheoliadau hygyrchedd.

Bydd unrhyw gynnwys fideo a recordiwyd ymlaen llaw a gyhoeddir ar ôl 23 Medi 2020 yn bodloni safonau hygyrchedd.

Sut aethon ni ati i brofi'r wefan hon

Cynhaliodd ein Tîm We brofion ymarferol.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gwneud ein gorau glas i ddatrys y materion a nodir uchod. Rydym yn cadw golwg manwl ar ein gwefan yn barhaus i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â rheolau hygyrchedd. Gwella ein gwefan yw rhan o waith beunyddiol y Tîm We.

  • Mae staff priodol wedi cael hyfforddiant hygyrchedd ac maent yn gweithio o fewn ein meysydd gwasanaeth i godi ymwybyddiaeth o'r angen i fodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
  • Mae gennym reoliadau yn eu lle i sicrhau bod yr holl gynnwys newydd a gyhoeddir ar y wefan yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd.
  • Rydym yn rhedeg gwiriad hygyrchedd awtomatig ledled y wefan bob yn bum diwrnod ac yn cydweithio â staff meysydd gwasanaeth i ddwyn unrhyw broblemau i drefn.

Lluniwyd y datganiad hwn ar 18 Awst 2021. Fe'i diweddarwyd diwethaf ar 28 Chwefror 2022.

Os oes gennych syniadau neu awgrymiadau o ran sut y gallwn wella'r wefan cysylltwch â ni.

Close Dewis iaith