Toglo gwelededd dewislen symudol

Cysylltwch â ni'n bersonol

Mae'r Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN.

Gwnewch e ar-lein

Amserau agor y Ganolfan Gyswllt

Dydd Llun - ddydd Iau, 8.30am - 5.00pm
Dydd Gwener, 8.30am - 4.30pm
Dydd Sadwrn a Dydd Sul, ar gau

Sicrhewch eich bod yn dod i'r Ganolfan Gyswllt 30 munud cyn yr amserau cau a nodir.

Mae'r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:

Ymholiadau budd-dal tai/gostyngiad treth y cyngor. Dyma oriau agor y gwasanaethau hyn:

Dydd Llun - ddydd Iau 8.30am tan 4.30pm
Dydd Gwener 8.30am tan 4.00pm
Ymholiadau treth y cyngor, ar gael tan 4.45pm (Dydd Gwener 4.15pm)

Parthau hunanwasanaeth digidol

Yn y parthau hyn, mae cyfrifiaduron ar gael i'ch helpu gyda gwasanaethau sydd ar gael ar-lein. Golyga hyn na fydd angen i chi aros mewn ciw er mwyn siarad ag asiant.

Parcio yn y Ganolfan Ddinesig

Mae Maes Parcio Dwyreiniol y Ganolfan Ddinesig (y llyfrgell) bellach yn faes parcio Talu ac Arddangos. Rydym wedi cadw'r cyfnod o ddwy awr am ddim, fodd bynnag ar ôl y cyfnod hwn bydd tâl yn daladwy. Cofiwch fod angen prynu tocyn Talu ac Arddangos o hyd, a hynny hyd yn oed ar gyfer y cyfnod sydd am ddim.

Gwiriwch y byrddau talu yn y maes parcio i gael yr holl wybodaeth a phrisau.

Hefyd, yn y Ganolfan Ddinesig, gallwch ymweld â'r canlynol:

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg (dydd Mawrth - dydd Gwener)

Llyfrgell Ganolog (ar gau ar ddydd Llun)

Caffi Coastline

Mae'r caffi'n cynnig detholiad rhagorol o ddiodydd, gan gynnwys te, coffi (Americano, cappuccino, latte, espresso, mocha) a diodydd oer. Mae'r amrywiaeth o fyrbrydau a phrydau ysgafn danteithiol yn cynnwys panini wedi'i dostio, dewis o gawliau, blychau salad, brechdanau ciabatta, baguettes wedi'u llenwi, tatws trwy'u crwyn a theisennau a theisennau crwst.

Oriau agor
Dydd Llun - ddydd Gwener, 8.30am - 3.00pm. 

Lle arddangos

Defnyddir y lle arddangos dull oriel i arddangos gwaith celf cymunedol ac ysgolion, lle ar gyfer digwyddiadau, ac i arddangos casgliadau ac adnoddau prosiectau llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau.

Croesewir ceisiadau i ddefnyddio'r lle arddangos gan grwpiau cymunedol, sefydliadau lleol, cymdeithasau, gwasanaethau cyhoeddus, adrannau'r cyngor ac unigolion. E-bostiwch llyfrgell.ganolog@abertawe.gov.uk neu cysylltu â Llyfrgell Ganolog am ragor o wybodaeth.

Close Dewis iaith