Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddfa Dai Ardal y Dwyrain

Mae'n cynnwys holl ardaloedd tai Eastside a Threforys ac mae'r swyddfa yn Nhreforys.

Ardaloedd eraill a gynhwysir yn y swyddfa hon: Gellifedw, Talycoppa, Trallwn, Bôn-y-maen, Winch Wen, Port Tennant, St Thomas, Caemawr, Cwmrhydyceirw, Gogledd y Clâs, De'r Clâs, Clydach, Y Glais, Gwernfadog, Llangyfelach, Llanllienwen a Mawr.

Swyddogion cymdogaeth yn Swyddfa Dai Ardal y Dwyrain

13 Heol Treharne, Treforys, Abertawe SA6 7AA

E-bost: swyddfadai.ardalydwyrain@abertawe.gov.uk

Rhif ffôn: 01792 601720

Amserau agor y swyddfa
Dydd Llun9.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mawrth9.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mercher9.30am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Iau9.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Gwener9.00am - 3.30pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.00pm)

 

Mae gan bob un o'n swyddfeydd tai:

  • rampiau a rheiliau i ddrysau'r fynedfa ynghyd â drysau sy'n agor yn awtomatig
  • dolenni clyw i helpu pobl â nam ar y clyw yn y derbynfeydd ac mewn cyfarfodydd
  • cymhorthion cynorthwyol sy'n cynnwys hambyrddau arffed, pinnau gafael mawr, chwyddwydrau, lampiau golau dydd, canllawiau ysgrifennu
  • ystafelloedd cyfweliad preifat y gellir eu defnyddio i drafod gwybodaeth gyfrinachol neu os ydych eisiau preifatrwydd i gael help gan aelod o staff i ddarllen drwy ffurflen gymhleth gyda chi a'i chwblhau
  • arwyddion cyffyrddol

Mae staff sy'n siarad Cymraeg ar gael i siarad â chi a gallwch gael gwyodaeth ysgrifenedig am dai yn Gymraeg os gofynnwch am hynny. Gallwn ddarparu cyfieithwyr proffesiynol os oes angen iaith arall arnoch. Gofynnwch i aelod o staff yn ein swyddfa dai am help a chymorth.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd galw heibio un o'n swyddfeydd, gallwn drefnu ymweliadau cartref. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.

Cyrraedd y swyddfa

Close Dewis iaith