Hoffech chi godi mater gyda chraffu?
Mae gan bawb sy'n byw neu sy'n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe yr hawl i gyflwyno cais am graffu ar faterion o bwys lleol.
Dylid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig am graffu i Dîm Cefnogi Craffu'r cyngor:
Dîm Cefnogi Craffu
Ystafell Gaerloyw
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE
E-bost: craffu@abertawe.gov.uk
Dylai'r cais gynnwys y canlynol:
- Beth yw'r broblem neu natur y pryder?
- Pa ardaloedd neu grwpiau cymunedol y mae'n effeithio arnynt?
- Beth byddai'n helpu i ddatrys y broblem?
- Pa lwybrau gweithredu rydych wedi eu harchwilio eisoes?
- Pam dylai craffu ystyried y mater yn eich barn chi/beth yr hoffech i graffu ei wneud?
Gellir gwrthod cais am y rhesymau canlynol:
- Mae'n wacsaw, yn ddifrïol, mae'n gwahaniaethu, mae'n flinderus, yn amhriodol neu'n afresymol.
- Mae'n ymwneud â mater lled-farnwrol (e.e. cais penodol am ganiatâd cynllunio) neu benderfyniad y mae ganddo ei broses apelio statudol ei hun.
- Mae'r mater eisoes wedi cael ei ystyried gan graffu neu mae craffu yn ymdrin ag ef.
- Mae'r mater yn destun achos cyfreithiol neu mae wedi bod yn destun achos cyfreithiol yn ddiweddar neu mae'n cael ei archwilio drwy broses gwyno ffurfiol.
- Mae gan y sawl sy'n cyflwyno'r cais fuddiant personol amlwg a sylweddol yn y mater.
- Nid yw'r mater yn effeithio'n helaeth ar y gymuned leol.
- Mae'r mater yn g?yn bersonol neu'n fater masnachol.
- Nid yw'r broblem a/neu rôl craffu'n glir.
- Ceir prinder amser ac adnoddau i ymdrin â'r mater.
- Gall fod yn fwy priodol i gorff heblaw craffu ymdrin â'r mater
Caiff ceisiadau eu cyfeirio at gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu a fydd yn ystyried y cais ac yn cyflwyno cynnig am sut i ymdrin â'r cais i gyfarfod nesaf y pwyllgor i'w ystyried.
Gall cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu wahodd y sawl a gyflwynodd y cais neu unigolion perthnasol eraill i ddod gerbron y pwyllgor i fynegi eu barn.
Gan ystyried barn berthnasol, gall y pwyllgor ddewis:
- cynnwys y mater yn ei raglen waith
- cyfeirio'r mater at fforwm arall
- gwneud dim
Bydd y pwyllgor yn darparu adborth llawn am ei benderfyniad i'r sawl a gyflwynodd y cais gwreiddiol, ynghyd â'r rhesymeg dros ei benderfyniad.
Lle bo'r pwyllgor wedi cytuno i gynnwys y mater yn ei raglen waith, gall ddewis galw ar aelodau a swyddogion i ddod i gyfarfod ac ateb cwestiynau, galw am adroddiad ar y mater, sefydlu ymchwiliad, neu wneud argymhellion i'r corff perthnasol a fydd yn penderfynu ar y mater.
Gellir cael cyngor ar gyflwyno cais neu wybodaeth ychwanegol am y broses graffu drwy e-bostio Tîm Cefnogi Craffu'r Cyngor: craffu@abertawe.gov.uk neu drwy ffonio: 01792 637732.