Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am Wind Street

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am Wind Street.

Pam mae Wind Street yn troi yn barth i gerddwyr yn bennaf - a pham mae'r mynediad i gerbydau gwasanaeth yn lleihau?

Y rheswm allweddol yw gwella'r economi leol. Mae Wind Street yn ysgogi economi gyda'r hwyr y ddinas yn sylweddol ond mae ganddi hefyd botensial gwych am fwy o fasnachu yn ystod y dydd. Byddai hyn yn annog economi ffyniannus a bydd y stryd yn elwa o lai o draffig a llai o lygredd a fydd hefyd o fudd i ddefnyddwyr y stryd a phreswylwyr lleol. Penderfynwyd lleihau'r amser gwasanaethu a'i newid o hanner dydd i 11am yn dilyn cynrychiolaeth gyda gweithredwyr busnes. 

Sut gall busnesau dderbyn dosbarthiadau?

Gall busnesau drefnu i dderbyn nwyddau a ddosberthir mewn cerbydau rhwng 7.00am ac 11.00am. Ym mharth cerddwyr sefydledig Oxford Street, mae cyflenwyr yn aml yn defnyddio trolïau ac mae'r arfer hwn wedi bod ar waith am nifer o flynyddoedd heb niweidio busnesau. 

Sut bydd masnachwyr ar-lein yn gallu dosbarthu eu nwyddau i breswylwyr lleol?

Dylai'r rheini sy'n prynu nwyddau ar-lein ddweud wrth y masnachwr am y cyfyngiadau mynediad. Mae ffurflenni archebu'r rhan fwyaf o fasnachwyr ar-lein yn cynnwys blwch lle gall gwsmeriaid ddweud am faterion fel cyfyngiadau mynediad. Ar gyfer eitemau mwy, mae nifer o gwmnïau logisteg yn defnyddio trolïau'n rheolaidd er mwyn dosbarthu nwyddau.

Dwi'ni weithiwr dosbarthu cludfwyd. Wrth gasglu bwyd o fwytai, ble gallaf barcio fy nghar?

Yn ystod cyfnod y gorchymyn traffig arbrofol, gall cerbydau gael mynediad i Wind Street er mwyn llwytho a dadlwytho rhwng 7.00am ac 11.00am yn unig. Mae parcio ar y stryd ar gael yn The Strand. Lleolir y meysydd parcio sydd gerllaw ger The Strand a Salubrious Place.

Mae gen i fathodyn glas. Sut gallaf barcio yn Wind Street?

Bydd y ffordd ar agor - ar gyfer llwytho'n unig - rhwng 7.00am ac 11.00am. Mae parcio i ddeiliaid bathodyn glas ar gael yn NCP Salubrious Place oddi ar Princess Way ac mae mynediad i Wind Street yn dilyn Salubrious Passage, llwybr hygyrch wedi'i orchuddio. Gellir cael mynediad hefyd trwy Little Wind Street. Ar hyn o bryd mae 11 o leoedd parcio i'r anabl ar gael ym maes parcio aml-lawr yr NCP oddi ar Little Wind Street, dwy le ym Maes Parcio Salubrious Place y cyngor sydd ar lefel y ddaear a 14 o leoedd ar y stryd yn The Strand. Rydym yn hapus i ystyried cyfleoedd eraill gerllaw os oes galw.

Ble gall pobl ag anabledd gael eu gollwng a'u casglu os ydynt yn defnyddio'r stryd?

Mae parcio ar y stryd ar gael yn y Strand. Mae meysydd parcio The Strand a Salubrious Place gerllaw. Mae Salubrious Place oddi ar Princess Way yn cynnig y llwybr mwyaf hygyrch, naill ai trwy Salubrious Place (llwybr hygyrch wedi'i orchuddio), neu trwy Little Wind Street.

Sut bydd pobl ag anableddau'n cael mynediad i Wind Street ar ôl iddi gael ei hailwampio?

Byddant yn gallu defnyddio nifer o bwyntiau mynediad. Mae'r rhain yn cynnwys cyffordd Castle Street/Caer Street ar waelod Wind Street yn Victoria Road. Mae nifer o lonydd hefyd yn arwain at Wind Street gan gynnwys Salubrious Passage, Little Wind Street a St Mary Street. Y cynllun yw gwella arwynebedd y ffordd a'r ardaloedd palmantog ar Wind Street;  bydd y cyfan ar yr un lefel, ni fydd unrhyw gyrbau. Bydd yr ardal yn addas i gerddwyr.

Pam rydych chi'n gwario'r holl arian hwn fel y gall rhagor o bobl fynd allan i yfed?

Pwrpas prosiect adfywio Wind Street yw sicrhau bod y lleoliad hwn yn addas i deuluoedd trwy'r dydd, gan ddod â diwylliant caffis yn ystod y dydd i'r lleoliad hanesyddol poblogaidd hwn. Mae'r busnes lletygarwch yn symud tuag at goffi a bwyd - a bydd hwn yn cyfrannu at y farchnad hon sy'n ehangu. Ni fydd unrhyw draffig ar ôl 11.00am ar Wind Street ar ei newydd wedd a fydd yn addas i deuluoedd; bydd rheseli beiciau, llawer o leoedd anffurfiol i eistedd ac ymlacio ac amgylchedd sy'n cymysgu adeiladau hanesyddol hyfryd, coed newydd ac aeddfed, mannau gwyrdd newydd ac arwynebedd hygyrch gwell, heb gyrbau. Bydd y prif byrth ar ddau ben  y stryd yn atyniad gwyrdd clyfar - byddant yn ganolbwynt gyda seddi a choed.

Pa fath o elfennau cynaladwyedd sy'n cael eu cynnwys yn y newid sylweddol hwn?

Mae ein ymagwedd at ailwynebu'r stryd yn un gynaliadwy. Ar lefel y ddaear caiff y cerrig palmant ar hyd y ffordd eu codi, eu glanhau'n drylwyr a'u hailosod (ni fyddwn yn gosod rhai newydd) ochr yn ochr â cherrig newydd lle caiff troedffyrdd eu hehangu, i wneud yr holl stryd yn fwy diogel ac yn hygyrch. Caiff setiau cerrig naturiol traddodiadol eu gosod yn agos i'w gilydd ar rannau o'r ffordd gerbydau (ger cyffyrdd allweddol neu 'nodau') i ategu'r awyrgylch hanesyddol ac i nodi'r rhain mewn ffordd weledol fel lleoliadau digwyddiadau hyblyg posib. Lle caiff tarmac ei osod rhwng y 'nodau' hyn, bydd yn cynnwys graean Buff wedi'u lliwio i feddalu golwg y gorffeniad ac i adlewyrchu'r palmant tywodfaen. Byddwn hefyd yn ceisio ailddefnyddio deunyddiau gwenithfaen sydd eisoes yn rhan o ddyluniad y stryd.

Pa waith sy'n cael ei wneud i'r coed sy'n tyfu ar y stryd?

Rydym yn cymryd camau i liniaru'r difrod o wthiad y ddaear a allai achosi i bobl faglu a chwympo a difrodi isadeiledd y ddaear. Pan fydd y cynllun terfynol wedi'i gwblhau bydd gwelliannau i'w gweld o gwmpas y coed, sy'n golygu mynediad mwy diogel i holl ddefnyddwyr y stryd. Mewn rhai lleoliadau lle bu tystiolaeth o aflonyddwch ar y tir yn y gorffennol, gosodir seddi o amgylch y coed i amddiffyn cerddwyr rhag unrhyw wthiad y ddaear a allai ddigwydd; bydd hyn hefyd yn darparu seddi anffurfiol i ddefnyddwyr fwynhau'r lle newydd, neu'n darparu man gorffwys. Tociwyd corunau'r coed i atal eu tyfiant wrth gadw eu hiechyd. Mae hyn yn fuddiol i ddeiliaid adeiladau trwy ganiatáu rhagor o olau i mewn i adeiladau hanesyddol. Mae'n taflu rhagor o olau ar y lleoedd islaw (er y cedwir rhywfaint o gysgod ar gyfer y diwrnodau poeth), sy'n fuddiol i'r stryd a pherchnogion busnesau sy'n defnyddio'r stryd. Bydd y gwaith yn gwella golygfeydd o'r adeiladau hanesyddol y mae llawer ohonynt yn adeiladau rhestredig yn Ardal Gadwraeth Wind Street.

Pwy sy'n dweud bod yn rhaid i Wind Street fod fel hyn? Pam nad yw'n gallu aros fel y mae?

Mae angen iddi newid gan fod llawer o botensial sydd heb ei ddefnyddio, yn enwedig yn ystod y dydd. Rydym yn bwriadu'i newid yn ardal hyblyg i gerddwyr, gyda'r cyfle i gynnal amrywiaeth eang o ddefnyddiau manwerthu a hamdden. Y nod yw ei throi'n ardal gaffis sy'n addas i deuluoedd - i bawb ei mwynhau, preswylwyr, twristiaid a'r gymuned yn ei chyfanrwydd. Bydd y defnydd estynedig yn ystod y dydd yn rhoi'r cyfle i fusnesau amrywio a dod yn fwy llwyddiannus. Pan fydd hi'n tywyllu, bydd y coed yn disgleirio gyda miloedd o oleuadau pys a fydd yn gallu newid lliw i adlewyrchu achlysuron gwahanol. 

Ydych chi wedi siarad â'r cyhoedd am y cynllun hwn?

Ydyn. Yn ystod yr ymgynghoriad ar Brosiect Ailddychmygu Wind Street yn 2018, cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori mewn lleoliad masnachol ar Wind Street. Roedd cynrychiolwyr ag anableddau'n rhan o'r broses hon. Caiff y cynllun terfynol ei drafod ymhellach yn ystod mis Medi 2020. Rydym yn bwriadu ymgysylltu ymhellach â phreswylwyr fel y byddwn yn ei wneud fel arfer yn ystod unrhyw brosiect fel mater o arfer da. Bydd ystyriaethau'r ymgynghoriad cychwynnol â'r gymuned yn rhan o ddatrysiadau terfynol y cynllun, a byddwn yn parhau i gynnwys y gymuned cyn ac ar ôl rhoi'r cynllun ar waith.

Beth am ddyfodol y stryd i'r rheini sydd â nam ar y golwg?

Mae swyddogion wedi siarad â chynrychiolwyr trwy alwadau ar-lein, a llywiwyd rhai manylion allweddol gan y penderfyniadau hyn. Bydd y cynllun terfynol yn gwbl hygyrch a chaiff ei gynllunio ar un lefel felly ni fydd unrhyw gyrbau, gan hwyluso symud i bawb. Gan na fydd cyrbau yno rydym yn dylunio llwybr 2m clir ar hyd adeiladau i helpu pobl i ddod o hyd i'r ffordd. Yn ystod yr oriau rhwng 11.00am a 7.00am y diwrnod canlynol bydd y stryd yn rhydd o draffig a bydd yn hollol hygyrch.

Beth am y sŵn o'r tafarndai a'r clybiau gyda'r nos? Fel preswylydd lleol, pam mae angen i fi oddef hyn?

Nod y cynllun yw annog pobl i fwyta a chymdeithasu yn yr awyr agored mewn awyrgylch sy'n addas i deuluoedd, a'u hannog i beidio ag ystyried  yfed alcohol yn unig gan fod hyn wedi bod yn broblem i breswylwyr yn yr amserau diweddar.

Pam nad oes modd cael llawer o wair ar Wind Street fel sydd ar Ffordd y Brenin?

Un o atyniadau mwyaf Wind Street yw ei hadeiladau tal a'i hen bensaernïaeth hardd. Fodd bynnag, mae'r adeiladau hyn yn golygu nad yw'r amodau ar lefel y ddaear yn addas ar gyfer lawntiau. Yn ôl y contract, stryd lydan yw Ffordd y Brenin felly mae mwy o olau haul yn cyrraedd y mannau gwyrdd. Fodd bynnag, caiff mannau gwyrdd newydd eu creu fel y caiff ei ddangos yn y cynlluniau sydd ar ddod.

Sut gallwn ni fod yn siŵr na fydd yr elfennau sy'n gwneud Wind Street yn ardal gadwraeth yn cael eu colli neu eu boddi gan y datblygiad newydd?

Mae'n ddyletswydd ar y cyngor i nodi ardaloedd y mae eu cymeriad yn haeddu cael ei warchod, a'u dynodi'n ardaloedd cadwraeth. Mae Wind Street yn un o'r rheini ac rydym am ofalu amdani, gan ei bod yn cynnwys nifer o Adeiladau Rhestredig o bwys. Rhoddir pwyslais ar ansawdd ardal yn hytrach na'r adeiladau unigol. Er enghraifft, gall grwpiau o adeiladau, mannau agored, patrymau strydoedd neu goed fod yn ffactorau pwysig sy'n rhoi cymeriad i'r ardal. Bydd y gwelliannau rydym yn eu cynllunio'n gwella'r hyn sydd yno nawr. Bydd y deunyddiau carreg naturiol yn cyfannu ac yn gwella'r strydlun. 

Pryd bydd y gwaith yn digwydd?

Rydym yn bwriadu gwneud rhywfaint o waith paratoi yr hydref hwn, gan gynnwys cynnal coed a gwaith i wella goleuo cyhoeddus a goleuadau pys. Bydd yn glir ar gyfer y Nadolig ac rydym yn bwriadu gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith sy'n weddill yn ystod 2021, eto gan sicrhau ei bod yn glir ar gyfer Nadolig 2021.

Close Dewis iaith