Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Kickstart

Menter gwerth £2 biliwn yw'r Cynllun Kickstart i ddarparu arian i gyflogwyr er mwyn creu lleoliadau swyddi 6 mis newydd i bobl ifanc 16-24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd, ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn y tymor hir.

Mae'n rhan o gynllun y llywodraeth ar gyfer swyddi a'r nod yw creu cannoedd ar filoedd o swyddi newydd, sydd wedi'u hariannu'n llawn ledled Lloegr, yr Alban a Chymru.

Bydd yr arian yn talu am y canlynol ar gyfer pob lleoliad swydd: 

  • 100% o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer 25 awr yr wythnos
  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwyr cysylltiedig
  • isafswm cyfraniadau cofrestru awtomatig cyflogwyr

Bydd hefyd arian ychwanegol ar gael i gefnogi pobl ifanc i adeiladu ar eu profiadau a'u helpu i symud i gyflogaeth barhaus unwaith y byddant wedi cwblhau eu swydd a ariennir gan Gynllun Kickstart.

 

Yr hyn y byddwch yn ei gael fel cyflogwr

  • Cefnogaeth gan Gyngor Abertawe i sefydlu lleoliadau a thrafod ceisiadau am grant i'r Adran Gwaith a Phensiynau ar eich rhan.
  • Gweithiwr(wyr) sy'n derbyn tâl llawn am 6 mis, am 25 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ar gyfer pob lleoliad rydych yn ei sefydlu.
  • Mynediad at gronfa rhwystrau a hyfforddiant i gefnogi pob gweithiwr yn y lleoliad
  • Cefnogaeth fentora gynhwysol gan dîm Kickstart sy'n gallu cefnogi pob gweithiwr yn y lleoliad gyda'r canlynol: 
    • cefnogaeth i chwilio am waith tymor hir
    • cefnogaeth wrth baratoi CV ac ar gyfer cyfweliadau
    • hyfforddiant i ddatblygu ei sgiliau, fel gwaith tîm, trefniadaeth a chyfathrebu fel rhan o'r rôl

 

Sut i gymryd rhan

Gwnewch gais drwon ni, gan ein bod ni (Cyngor Abertawe) yn ganolwr cofrestredig ar gyfer y Cynllun Kickstart.

Yr wybodaeth y mae ei hangen arnom gennych chi:

  1. Eich cyfeiriad e-bost a'ch manylion cyswllt 
  2. Cyfeirnod Tŷ'r Cwmnïau neu rif y Comisiwn Elusennau
  3. Disgrifiad swydd byr ar gyfer pob lleoliad yr hoffech ei sefydlu 
  4. Cadarnhad y bydd pob lleoliad am 6 mis, ac am o leiaf 25 awr yr wythnos ac y byddwch yn talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ac Yswiriant Gwladol a phensiwn statudol trwy PAYE trwy eich cyflogres
  5. Cadarnhad nad ydych yn disodli swyddi presennol neu arfaethedig
  6. Cadarnhad na fydd unrhyw leoliadau Kickstart yn peri i weithwyr neu gontractwyr presennol golli'u cyflogaeth neu gael llai o gyflogaeth.

Gwnewch gais i fod yn rhan o'r Cynllun Kickstart Gwnewch gais i fod yn rhan o'r Cynllun Kickstart

Does dim dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar hyn o bryd.

 

Ar ôl i chi wneud cais

Bydd Cyngor Abertawe yn cyflwyno cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau ar eich rhan i sefydlu lleoliad neu leoliadau gyda'ch busnes.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y bobl ifanc y cyfeiriwyd atoch gan Hyfforddwyr Gwaith JCP sy'n eu cydweddu â'r lleoliadau rydych wedi creu fel rhan o'r cynllun, yn cysylltu â chi.

Bydd tîm Gweithffyrdd+ Cyngor Abertawe ar gael i ddarparu cefnogaeth barhaus i'r person ifanc wrth iddo fod yn y lleoliad. Gan gynnwys:

  • cefnogaeth i chwilio am waith tymor hir
  • cefnogaeth wrth baratoi CV ac ar gyfer cyfweliadau
  • hyfforddiant i ddatblygu'i sgiliau, fel gwaith tîm, trefniadaeth a chyfathrebu fel rhan o'r rôl

 

Sut caiff yr arian ei dalu

Unwaith y bydd y person ifanc wedi cofrestru ar eich cyflogres ac yn cael ei dalu trwy PAYE, bydd Cyngor Abertawe yn cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau i hawlio'r arian grant ar gyfer pob lleoliad fel ôl-ddyled ac yna cewch eich ad-dalu ar gyfer y costau cyflog, Yswiriant Gwladol a phensiwn rydych wedi'u hysgwyddo.

Gwnewch gais i fod yn rhan o'r Cynllun Kickstart

Llenwch y ffurflen gais hon os ydych yn fusnes sydd am fod yn rhan o'r Cynllun Kickstart.