Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb cymunedol canol y ddinas

Rydym yn cynnig adeiladu hwb cymunedol aml-ddefnydd yng nghanol y ddinas.

Nod yr hwb fydd annog: cydlyniant cymunedol, cyfleoedd ar gyfer hunanddatblygiad a thwf, cefnogi cynhwysiad digidol, gwella lles ac uno a chryfhau ein cymuned amrywiol.

Bydd croeso i bawb yn yr hwb cymunedol a bydd yn darparu ystod o wasanaethau mewn amgylchedd croesawgar lle gall pobl gwrdd a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, dysgu a grwpiau cymorth. Bydd yr hwb hefyd yn darparu llety hygyrch i gwmnïau'r trydydd sector, y sector cyhoeddus a phreifat sy'n cefnogi ethos yr hwb cymunedol. Bydd hyn yn caniatáu swyddfeydd hygyrch a chydweithredu sy'n annog ymagwedd gydlynol wrth gefnogi'r gymuned i ddod o hyd i ddatrysiadau er mwyn gwella ansawdd bywyd a'u rhoi ar waith.

Nodwyd 277-278 Stryd Rhydychen (hen adeilad BHS) fel lleoliad posib ar gyfer yr hwb cymunedol, a byddai sicrhau'r adeilad hwn hefyd yn golygu na fydd adeilad mawr yn cael ei adael yn wag yng nghanol y ddinas ond byddai ei ailddefnyddio'n cynyddu nifer yr ymwelwyr, gan annog adfywiad.

Byddai'r ymagwedd hon yn ceisio sicrhau bod preswylwyr yn gallu defnyddio gwasanaethau'n haws nag erioed o'r blaen, ac yn osgoi miliynau o bunnoedd o gostau diangen, yn lleihau gorbenion ac yn gwneud cyfraniad pwysig o ran adfywio canol y ddinas drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr â'r ddinas ac annog buddsoddiad manwerthu a phreswyl yno.

Roedd y cynigion hyn yn destun proses ymgynghori cychwynnol, a ddaeth i ben yn ddiweddar. Mae'r canlyniadau'n cael eu prosesu gan dîm y prosiect a chânt eu hystyried yn ystod y cynigion dylunio cynnar i benderfynu ar y ffordd orau o symud y prosiect yn ei flaen.

Cwestiynau cyffredin am hybiau cymunedol

Cwestiynau Cyffredin am yr hwb cymunedol arfaethedig ar gyfer canol y ddinas, a fyddai'n gartref newydd i'n prif lyfrgell a llu o wasanaethau cymunedol eraill.
Close Dewis iaith