Toglo gwelededd dewislen symudol

Problemau wrth dalu'ch trethi busnes

Cysylltwch â ni os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu fel y gallwn eich helpu.

Fel popeth arall, mae'n rhaid talu bil Trethi Busnes, ond rydym yn deall y gall pobl gael anawsterau gyda'r taliadau heb fod bai arnynt o gwbl.

Os ydych yn cael problemau talu, e-bostiwch ni yn trethibusnes@abertawe.gov.uk yn syth. Peidiwch â'i anwybyddu gan na fydd y ddyled yn diflannu. 

Rydym am i chi dalu'ch Trethi Busnes ac efallai y gallem ddod i gytundeb talu y gallwch ei fforddio.

Os na rowch wybod i ni eich bod yn cael anhawster talu'n rheolaidd, gallech gael rhagor o gostau a thaliadau os cymerwn gamau adennill yn eich erbyn y bydd yn rhaid i chi eu talu ar ben eich bil.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Awst 2021