Toglo gwelededd dewislen symudol

71 a 72 Ffordd y Brenin

Mae hwn yn ddatblygiad swyddfa uwch-dechnoleg newydd pwysig a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi yn hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin yng nghanol dinas Abertawe.

Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleoedd cydweithio hyblyg a swyddfeydd ar gyfer busnesau technoleg, digidol a chreadigol arloesol. Bydd yn ddatblygiad pum llawr, di-garbon gyda dwy lefel o dan y ddaear.

Bydd y cynllun yn cynnwys:

  • 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol
  • cysylltedd digidol o'r radd flaenaf ac integreiddio â thechnoleg Smart City 
  • cyfleusterau cynadledda a chyfarfod, gyda chysylltiadau posib ag Arena Abertawe 
  • mynediad cyhoeddus 
  • cyswllt newydd i gerddwyr rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen
  • teras ar y to
  • ardaloedd gwyrdd yn yr adeilad a man cyhoeddus newydd
  • balconïau sy'n edrych dros ganol y ddinas a Bae Abertawe

 
 

Pam mae'n digwydd?

Mae galw sylweddol heb ei ateb am ddatblygiadau swyddfa o'r ansawdd hwn yn Abertawe, gyda thystiolaeth yn dangos bod rhai busnesau yn gorfod gadael y ddinas i ddod o hyd i'r llety sydd ei angen arnynt.

Bydd y datblygiad hwn yn helpu i fynd i'r afael â'r duedd honno trwy gadw swyddi o werth uchel yn Abertawe, gan gynyddu ymhellach nifer yr ymwelwyr i'n masnachwyr yng nghanol y ddinas.

Mae'r gwaith uwchraddio amgylcheddol a gwblhawyd yn ddiweddar ar Ffordd y Brenin eisoes wedi bod yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad y sector preifat yn yr ardal, gan gynnwys datblygiad myfyrwyr Coppergate. Bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn gweithredu fel sbardun pellach, gan ategu nifer o ddatblygiadau eraill cyfagos a gynlluniwyd.

Pryd caiff hyn ei wneud?

Mae'r cyngor wedi penodi Bouygues UK fel prif gontractwr y datblygiad. Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod haf 2021, a bydd y datblygiad wedi'i gwblhau erbyn haf 2023.

A fydd pobl leol a busnesau lleol yn elwa o'r gwaith adeiladu?

Byddant. Bydd y cyngor - gan weithio mewn partneriaeth â Bouygues UK - yn manteisio i'r eithaf ar y gwaith, yr hyfforddiant, y prentisiaethau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi i bobl leol a busnesau lleol.

Oni fydd COVID-19 yn cael effaith ar ddeiliadaeth?

Er bod COVID-19 wedi arwain at fwy o weithio gartref, mae galw o hyd am swyddfeydd o ansawdd uchel yng nghanol ein dinas sydd â chysylltiadau rhagorol â thrafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy a llwybrau cerdded a beicio mewn amgylchedd gwyrdd o ansawdd uchel. Mae adolygiad o'r cynlluniau gan dîm dylunio'r prosiect yn dangos bod y datblygiad yn gydnerth o ran COVID o ran ei ddyluniad a'i gynllun hyblyg, ac mae croeso i fusnesau sydd â diddordeb mewn cael lle wneud ymholiadau hyd yn oed yn ystod y cam cynnar hwn o'i ddatblygiad. Mae trafodaethau â gweithredwr adeiladau posib a nifer o denantiaid ar gam datblygedig. 

Pwy sy'n ariannu'r datblygiad hwn?

Daw'r arian ar gyfer 71/72 Ffordd y Brenin gan Gyngor Abertawe a Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Cefnogir y cynllun hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?

E-bostiwch 7172TheKingsway@abertawe.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

 
 

Newyddion diweddaraf

Cyfle i fusnesau elwa o gynllun mawr newydd ar gyfer Ffordd y Brenin  (Rhagfyr 2021)

Arweinwyr Busnes yn croesawu dechrau gwaith ar swyddfeydd Ffordd y Brenin (Tachwedd 2021)

Gwaith i ddechrau'r mis hwn ar ddatblygiad swyddfeydd newydd mawr yn Abertawe  (Tachwedd 2021)