Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr - Antur dringo creigiau arfordirol
Dewch i ddringo gyda ni ar glogwyni hyfryd Penrhyn Gŵyr! Dewch i dreulio'r diwrnod gyda ni yn sgrafangu dros y creigiau ac yn archwilio'r arfordir.
Pris - £55 y person y diwrnod.
I bobl 12+ oed
Darperir harnais a helmed
Sylwer, efallai y bydd angen newid lleoliad neu amserau oherwydd y tywydd neu amodau'r llanw.
Beth i'w wisgo:
- Dillad cynnes
- Esgidiau ymarfer neu fŵts
Dewch â'r canlynol:
- Gwarbac
- Pecyn cinio
- Dŵr
- Byrbrydau
- Meddyginiaeth - os oes angen
- Siwmper sbâr
- Cot law
- Mae angen clymu gwallt hir yn ôl.
Lleoliad:
Antur dringo creigiau arfordirol - Cwrdd ym maes parcio Porth Einon
Amser y sesiwn: 10.00am - 3.00pm
Antur dringo creigiau arfordirol 29 Mai 2024
Archebwch sesiwn ar gyfer 29 Mai 2024.
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2024