COAST - Cadw'n heini i bobl 50 oed ac yn hŷn gyda SO Fit!
Rhaglen 3 wythnos sydd â'r nod o gefnogi lles meddwl, emosiynol a chorfforol pobl 50 oed ac yn hŷn.
Cyflwynir pob sesiwn wythnosol mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol, gan gyfuno gweithdy rhyngweithiol gyda sesiwn ffitrwydd dwysedd isel 30 munud o hyd sy'n addas i bob lefel o ran symudedd a phrofiad.
Mae wythnos 1 yn canolbwyntio ar feddylfryd a gwerthoedd, gan helpu cyfranogwyr i archwilio'r hyn sydd pwysicaf iddyn nhw, herio credoau cyfyngus am heneiddio, ac adeiladu meddylfryd cadarnhaol ar gyfer y dyfodol. Yn cynnwys ymarferion symudedd ac anadlu ysgafn i helpu'r corff i orffwys a thawelu'r meddwl.
Mae wythnos 2 yn edrych ar newid mewn ymddygiad a sut gall arferion bach a chyson arwain at welliannau mawr o ran lles. Yn cynnwys cylched llai heriol sy'n hyrwyddo symudiad, hyblygrwydd a mwynhad.
Mae wythnos 3 yn mynd i'r afael ag iechyd meddwl a heneiddio, gan ddarparu man diogel i siarad am y newidiadau emosiynol a all ddigwydd yn hwyrach mewn bywyd. Yn cynnwys symud ar gyfer lles ac ymlacio dan arweiniad.
Sesiynau:
Nos am 6.00pm.
Dydd Mawrth 19 Awst - Wythnos 1: Meddylfryd a Gwerthoedd - Ailfframio Heneiddio.
Dydd Mawrth 26 Awst - Wythnos 2: Newid Ymddygiad - Camau Bach, Effaith Fawr.
Dydd Mawrth 2 medi - Wythnos 3: Iechyd Meddwl a Heneiddio - Aros yn Iach yn y Tymor Hir.
Lleoliad: Canol y Ddinas / Sgeti.
- Enw
- COAST - Cadw'n heini i bobl 50 oed ac yn hŷn gyda SO Fit!
- E-bost
- admin@sofitgroup.co.uk