Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadwyni Swydd y Dirprwy Arglwydd Faer

Mae gan y Dirprwy Arglwydd Faer ei Gadwyni Swydd ei hun.

Arwyddnod

Mae'r Arwyddnod yn cynnwys gem enamel gilt arian wedi'i phaentio â llaw sy'n darlunio'r Arfbais, wedi'i fowntio ar gefnblat enamel melyn. Mae'n hongian o gadwyn gilt arian â 24 o ddolenni cyswllt, gyda 12 ohonynt mewn patrwm "G" a 12 ar ffurf Rhosyn Tuduraidd.

Dehongliad

Mae'r darian yn fynegiant syml o hanes Penrhyn Gŵyr dan deyrnasiad ei arglwyddi. Mae'r penrhyn, a gynrychiolir gan y triongl ymysg y tonnau glas a gwyn, yn cynnwys y llew aur a chroesledau glas y teulu de Breos. Mae'r croesledau hefyd yn rhan o arfbais y teulu Beauchamp, Ieirll Warwig, gan y newidiodd perchnogaeth yr arglwyddiaeth yn aml rhwng y ddau deulu.

Uwchben y darian mae'r llyw ar gau, sy'n briodol ar gyfer arbeisiau dinesig, gyda'i fantellwaith addurnol neu'r clogyn twrnamaint yn lifrai'r teulu de Breos, sef glas ac aur. Ar y llyw mae'r arwyddlun. Ar waelod yr arwyddlun mae'r "goron wledig", neu goronig o dywysennau gwenith a mes, sy'n cynrychioli gwreiddiau gwledig a'r harddwch naturiol a roddir i'r ardaloedd gwledig yn unig.

O hwn cwyd twmpath rhos sy'n addas ar gyfer rhan helaeth o'r ardal mae hefyd yn gyfeiriad at Mrs Heath, rhoddwr yr arfbais a'r arwyddnod. Mae rhagor o symbolau yma sy'n ymwneud ag arglwyddiaeth Gŵyr. Mae'r llew gwyn yn cynrychioli'r de Mowbrays, a etifeddodd yr arglwyddiaeth gan deulu de Breos, yn ogystal â theulu Herbert, Ieirll Penfro, a'i meddiannodd gan y Mowbrays. Mae'r llew yn cydio mewn croes Faltaidd ar gyfer Marchogion Sant Ioan o Jeriwsalem, a oedd yn berchen ar dir ym Mhenrhyn Gŵyr. Yn cwblhau'r arwyddlun mae porthcwlis aur y teulu Somerset, Dugiaid Beaufort, arglwyddi olaf Gŵyr.

Mae gan yr arwyddair "Gloria Ruris Divina" ("Gogoniant y wlad yw Duw") y llythrennau blaen G.R.D. (Ardal Wledig Gŵyr/Gower Rural District).