Cymorth recriwtio a hyfforddi i fusnesau
Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth recriwtio a rhaglenni hyfforddi wedi'u hariannu a ddarperir gennym ni a'n partneriaid.
Recriwtio
Llwybrau at Waith
Mae'r prosiect Llwybrau at Waith yn canolbwyntio ar fylchau yn y ddarpariaeth bresennol ac anghenion lleol i ategu darparwyr presennol drwy greu llwybrau cyflogadwyedd a gyflwynir gan weithwyr allweddol drwy ddarpariaeth:
- cefnogaeth atal NEET mewn ysgolion uwchradd/UCD
- cefnogaeth ymgysylltu ar gyfer pobl ifanc NEET a'r rheini sy'n anweithgar yn economaidd
- cefnogaeth cyflogadwyedd fanwl
- cefnogaeth sgiliau a hyfforddiant
- sgiliau digidol
- gwirfoddoli, profion gwaith a lleoliadau gwaith â thâl
- clybiau swyddi sy'n gysylltiedig â chyflogwyr lleol
- darpariaeth cyflogadwyedd arbenigol drwy gynllun grant trydydd parti
Y nod yw symud unigolion di-waith neu sy'n anweithgar yn economaidd drwy becyn pwrpasol o ymyriadau i mewn i'r farchnad lafur neu'n agosach ati.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 637112 neu e-bostiwch llwybraugwaith@abertawe.gov.uk.
Ariennir Llwybrau at Waith gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (angor cyflogadwyedd).
Prentisiaethau
Gall prentisiaid fod yn ffordd arloesol o lenwi'r bylchau sgiliau yn eich busnes. Mae prentisiaid yn aml yn cael eu hystyried fel ffordd o recriwtio gweithwyr newydd i'ch busnes; er y gallai hyn fod yn wir, gall prentisiaeth hefyd fod yn ffordd o wella sgiliau eich gweithlu presennol.
Mae cyrsiau prentisiaid bellach ar gael yr holl ffordd hyd at lefel gradd ac maent ar gael ar draws 23 o sectorau unigol.
Mae cymhellion ariannol ar gael i bob busnes sy'n recriwtio prentis
Gall Busnes Cymru ddarparu cymorth i recriwtio prentisiaid i'ch busnes. Am fanylion pellach gan gynnwys canllaw i gyflogwyr ewch i: Busnes Cymru - prentisiaethau (Yn agor ffenestr newydd)
Hyfforddiant a datblygiad
Cyfrif Dysgu Personol (CDP) (Yn agor ffenestr newydd)
Mae'r CDP yn darparu cyrsiau dysgu rhan-amser hyblyg wedi'u hariannu'n llawn mewn meysydd penodol. Bydd hyn yn galluogi unigolion i ennill sgiliau a chymwysterau naill ai i ddatblygu eu gyrfa bresennol neu i gychwyn ar lwybr newydd. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 19 oed, yn byw yng Nghymru ac yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig ac yn ennill llai na £26,000 y flwyddyn.